Sêr cerddoriaeth, comedi a dawns yn cael eu cadarnhau ar gyfer Arena Abertawe
Mae tocynnau bellach ar werth i'r cyhoedd ar gyfer sêr y byd cerddoriaeth, comedi a dawns yn Arena Abertawe.
Cadarnhawyd y bydd Alice Cooper a The Cult, Diversity, Katherine Ryan a Rob Brydon yn perfformio yn yr arena yn 2022, a bydd rhagor o gyhoeddiadau am berfformwyr yn dilyn yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Mae'r rhain yn cynnwys cyhoeddiadau am brif act cerddorol agoriadol yr arena.
Dyma ddyddiadau'r perfformiadau a gyhoeddwyd hyd yn hyn:
- Nos Sadwrn, 30 Ebrill, 2022: Rob Brydon - A Night of Songs and Laughter
- Nos Sadwrn, 13 Mai, 2022: Katherine Ryan, gyda'i sioe fyw newydd sbon, Katherine Ryan: Missus
- Nos Lun 23 Mai 2022: Alice Cooper, un o anfarwolion yr oriel roc a rôl a'r eiconau roc The Cult
- Nos Fawrth, 7 Mehefin, 2022: Diversity, fel rhan o'u taith 2022, 'Connected'
Mae'r arena, a gaiff ei gweithredu gan Ambassador Theatre Group, yn un nodwedd o ardal newydd cam un Bae Copr sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe a'i chynghori gan y rheolwr datblygu RivingtonHark.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym wrth ein bodd fod tenantiaid a gweithredwyr yr arena, ATG, eisoes wedi sicrhau perfformwyr o'r ansawdd hwn ar gyfer Arena Abertawe. Nid yw llawer o'r perfformwyr hyn wedi perfformio yn Abertawe o'r blaen, felly mae hyn yn dangos yr effaith y mae datblygiad ein harena newydd yn ei chael.
"Bydd hyn yn helpu i adeiladu cyffro tuag at gyhoeddi llawer mwy o berfformwyr yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod, gan gynnwys y brif act agoriadol ar gyfer Arena Abertawe.
"Bydd yr Arena newydd sydd yng nghanol ardal newydd £135m Bae Copr y ddinas yn gyrchfan o'r radd flaenaf i bobl leol ac ymwelwyr â'r ddinas. Mae'n un nodwedd o stori ailddatblygu gwerth miliynau o bunnoedd sy'n datblygu ar draws Abertawe a fydd yn creu swyddi â thâl da i bobl leol ac yn denu buddsoddiad sylweddol pellach wrth i Abertawe gael ei thrawsnewid yn un o'r dinasoedd gorau yn y DU i fyw, gweithio, astudio ac ymweld â hi."
Meddai Lisa Mart, Rheolwr Cyffredinol Arena Abertawe, "Rydym ar ben ein digon i ddatgelu rhai o'r artistiaid anhygoel sy'n dod i Arena Abertawe y flwyddyn nesaf. Maent yn rhai o'r perfformwyr cerddorol, comedi ac adloniant enwocaf sydd ar gael, ac i'r rhan fwyaf ohonynt, ac eithrio wrth gwrs yr amryddawn Rob Brydon a aned yn ne Cymru, dyma fydd eu sioe gyntaf yn Abertawe.
"Mae'n ddechrau rhywbeth go arbennig. Byddwn yn rhannu newyddion am ragor o sioeau dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod, gan gynnwys ein hact agoriadol sydd heb ei ddatgelu eto. Cadwch lygad yma am ragor o gyhoeddiadau."
Ewch i www.swansea-arena.co.uk i brynu tocynnau, cael rhagor o wybodaeth neu gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio sy'n golygu mai chi fydd y cyntaf i glywed pan fydd tocynnau sioeau'r dyfodol yn mynd ar werth.
Mae nodweddion eraill Bae Copr yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw, pont newydd dros Oystermouth Road, mannau parcio newydd, cartrefi newydd a lleoedd ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch.
Mae'r arena'n rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sy'n cael ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn.
Bydd y gwaith adeiladu yn ardal cam un Bae Copr - a arweinir gan Buckingham Group Limited - yn cael ei gwblhau eleni, a bydd yr arena'n agor ei drysau'n gynnar yn 2022.