Gweinidog yn agor cartref newydd gwerth £11.5m ar gyfer ysgol
Mae cartref newydd gwerth £11.5m ar gyfer ysgol cyfrwng Cymraeg yn darparu cyfleoedd gwych i dros 500 o ddisgyblion erbyn hyn.
Agorodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw yn swyddogol yr wythnos hon, a chlywodd am y gwahaniaeth y mae eisoes yn ei wneud.
Ariannwyd y prosiect ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru dan y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu ac mae'n rhan o fuddsoddiad o £170m mewn cyfleusterau newydd a gwell yn Abertawe.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, a groesawodd Mr Miles i'r ysgol, "Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i ddangos yr ysgol i'r gweinidog fel y gall weld sut mae'r buddsoddiad mwyaf erioed rydym yn ei wneud ar y cyd yn newid bywydau disgyblion a staff.
"Dyma adeilad newydd gwych arall a fydd yn trawsnewid addysg ar gyfer miloedd o bobl ifanc dros y blynyddoedd nesaf.
"Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi agor ysgolion newydd ar gyfer Gorseinon, Tan-y-lan, Maes Derw a Thirdeunaw, mae rhaglen wella gwerth £7m wedi'i chwblhau yn Ysgol Gyfun Gŵyr ac mae gwaith adnewyddu gwerth £13m yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn gwneud cynnydd da.
"Mae gwaith pellach wedi'i gynllunio gan ein bod yn benderfynol o roi'r cyfleusterau a'r awyrgylch gorau posib i ddisgyblion ar draws Abertawe fel y gallant gyflawni eu potensial llawn."
Meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, "Rwy'n falch iawn o agor Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw yn swyddogol yr wythnos hon, sydd wedi derbyn 65% o'i chyllid trwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.
"Mae'n wych gweld bod y gwaith adeiladu cynaliadwy hwn wedi'i orffen ac yn barod i gynnig cyfleoedd ardderchog i ddysgwyr a'r gymuned.
"Mae'r ysgol eisoes yn gwneud gwahaniaeth enfawr, gan fod ganddi gyfleusterau o ansawdd uchel i feithrin ac annog dysgwyr cyfrwng Cymraeg, a chefnogi'u lles.
"Edrychaf ymlaen at weld y gwaith arbennig a wneir yma."
Gweithiodd y contractwyr Morgan Sindall yn ddiogel yn ystod y pandemig i gyflawni'r ysgol, a ddyluniwyd gan y penseiri Powell Dobson.
Meddai'r Pennaeth, Jackie James, "Mae wedi bod yn wych gallu agor yr ysgol hon ar gyfer ein dysgwyr a'n cymuned.
"Mae disgyblion a staff yn falch dros ben o'u hysgol newydd o'r radd flaenaf, sy'n darparu cyfleusterau gwych a lle creadigol i ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr.
"Mae'r cynllun a'r cyfleusterau eisoes yn ein helpu i ddarparu cyfleoedd ardderchog ar gyfer lles ac addysg ein disgyblion, yn ogystal â chefnogi cyflwyniad y cwricwlwm newydd."