Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad yn lledaenu hwyl yr ŵyl i'r rheini mewn angen

Roedd digwyddiad arbennig wedi rhannu ychydig o hwyl yr ŵyl heddiw i bobl yn Abertawe sy'n agored i niwed, yn teimlo'n unig neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Together at Christmas 2022

Agorwyd drysau Neuadd Brangwyn gan JR Events and Catering, gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol, i weini cinio Nadolig dau gwrs am ddim ynghyd ag adloniant a gweithgareddau eraill.

Roedd banc bwyd dros dro, cyfle i gael torri gwallt am ddim a'r cynnig o ddillad gaeaf i'r rheini yr oedd eu hangen arnynt.

Roedd cyngor ar gael ar dai, cyflogadwyedd a lles ac roedd cyfle i gael brechlynnau'r ffliw a COVID.

Daw Gyda'n Gilydd dros y Nadolig wrth i fwy o gefnogaeth nag erioed o'r blaen fod ar gael yn Abertawe i helpu pobl ddigartref neu unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae Cyngor Abertawe'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'i bartneriaid i sicrhau nad oes unrhyw un sydd angen neu sydd eisiau gwely neu lety yn Abertawe yn mynd hebddynt y gaeaf hwn.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Unwaith eto mae Abertawe wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r rheini mewn angen a hoffwn ddiolch i bob person sydd wedi gwneud heddiw yn bosib.

"Yn anffodus yn ystod yr argyfwng costau byw mae angen cymorth ar fwy o bobl nag erioed o'r blaen ac rwy'n falch bod gennym gynifer o bobl yn Abertawe sy'n gweithio mor galed i gefnogi'r rheini mewn angen.

"Mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb a bydd Cyngor Abertawe'n parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi pawb yn ystod y cyfnod heriol hwn."

Ychwanegodd Jessica Rice, Cyfarwyddwr JR Events and Catering, "Unwaith eto mae Abertawe wedi gweithio'n galed ac wedi cynnig cymorth i'r rheini y mae arnynt ei angen fwyaf.

"Mae'n fraint bod yn rhan o'r profiad hwn bob blwyddyn, ac roedd hyn yn wir eleni eto, gyda gwirfoddolwyr dirifedi'n cynnig helpu, a busnesau a sefydliadau'n cynnig cefnogaeth.

"Diolch o galon i bawb a fu'n rhan o'r digwyddiad, yn enwedig Cyngor Abertawe - rwy'n falch iawn o'n dinas hyfryd."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Rhagfyr 2022