Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe'n dod ynghyd i gefnogi'r rheini mewn angen y Nadolig hwn

Mae gwirfoddolwyr wedi dod ynghyd eto eleni i gynnig eu hamser a'u gwasanaethau i ddod â hwyl yr ŵyl i bobl mewn angen fel rhan o ddigwyddiad Nadolig arbennig iawn yn Abertawe.

Together at Christmas 2022 Prelim

Together at Christmas 2022 Prelim

Ddydd Mawrth, bydd JR Events and Catering, gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe, yn agor drysau Neuadd Brangwyn i weini cinio Nadolig dau gwrs am ddim i bobl sy'n agored i niwed, sy'n teimlo'n unig neu sy'n ddigartref yn Abertawe.

Cynhelir y digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig rhwng canol dydd a 3pm, a bydd cynrychiolwyr o amrywiaeth o wasanaethau ac elusennau'n darparu gwybodaeth am gymorth sydd ar gael ar y diwrnod.

Trefnir banc bwyd dros dro hefyd a gofynnir i bobl ddanfon rhoddion fel eitemau nad ydynt yn ddarfodus i Neuadd Brangwyn o 9am ddydd Mawrth.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnig brechiadau'r ffliw a COVID a bydd staff o siop trin gwallt It's Science yn Abertawe yno yn torri gwallt am ddim.

Ymysg y gweithgareddau niferus ar y diwrnod, bydd swyddogion y cyngor yn bresennol i gynnig cyngor ar dai, cyflogadwyedd a hawliau lles a bydd y tîm Safonau Masnach yn dosbarthu eitemau ffug o ddillad a waharddwyd gyda'r labeli a'r brandiau wedi'u tynnu.

Cynhelir Gyda'n gilydd dros y Nadolig wrth i fwy o gefnogaeth nag erioed o'r blaen fod ar gael yn Abertawe i helpu pobl ddigartref neu unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae Cyngor Abertawe'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'i bartneriaid i sicrhau nad oes unrhyw un sydd angen neu sydd eisiau gwely neu lety yn Abertawe yn mynd hebddynt y gaeaf hwn.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Yn anffodus, yn ystod yr argyfwng costau byw bydd mwy o bobl nag erioed yn ei chael hi'n anodd y gaeaf hwn ac rwy'n falch iawn bod gennym gynifer o bobl yn Abertawe sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi'r rheini mewn angen."

I wirfoddoli, i gael rhagor o wybodaeth,  neu i ddarparu gwasanaeth, adloniant neu gyfraniad, cysylltwch â Shannon Williams drwy e-bostio  events@jr-eventsandctering.co.uk, neu ffoniwch 01792 446017.