Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad ar gyfer pobl agored i niwed ac ynysig dros yr ŵyl yn agosáu

Mae digwyddiad blynyddol yn agosáu sy'n darparu cinio Nadolig, adloniant a gwasanaethau allgymorth am ddim i bobl yn Abertawe sy'n agored i niwed, sy'n teimlo'n ynysig neu sy'n ddigartref, ac mae'r trefnwyr yn dal i geisio llenwi rhai bylchau.

Together at Christmas with HereForYouThisWinter logo

Together at Christmas with HereForYouThisWinter logo

Mae llawer o wirfoddolwyr wedi camu ymlaen i helpu yn y digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig eleni, a gynhelir yn Neuadd Brangwyn ddydd Mawrth 3 Rhagfyr.

Fe'i cynhelir gan JR Events & Catering, gyda chefnogaeth gan Gyngor Abertawe, ac mae'n rhan o becyn cymorth mwyaf erioed y Cyngor i breswylwyr y gaeaf hwn fel rhan o'r ymgyrch Yma i Chi y Gaeaf Hwn.

Mae'r trefnwyr yn dal i chwilio am adloniant byw - naill ai côr, band pres neu ganwr - ochr yn ochr â phodiatrydd a deintydd.

Bwriedir hefyd ddarparu banc bwyd dros dro ar y diwrnod, ac yn nes at y dyddiad cyhoeddir manylion ynghylch sut i roi bwyd, nwyddau iechydol megis sebonau, brwsys dannedd a nwyddau hylendid i fenywod, cotiau a dillad cynnes, yn ogystal â bwyd anifeiliaid anwes, sachau cysgu a blancedi.

Meddai Shannon Williams, Rheolwr Digwyddiadau, JR Events & Catering, "Mae'r digwyddiad hwn bellach yn ei wythfed flwyddyn ac mae llawer o bobl bob amser yn cymryd rhan ynddo ac yn ei fwynhau.

"Diolch yn fawr i Hawliau Dynol Abertawe, Sarah Marie Hair Systems, Oner Signs Swansea, Comet Security, Tara Camm, Lara Johnson Lifestyle, Well Pharmacy, grŵp milfeddygol Tawe a phawb sydd wedi gwirfoddoli gan fod y lleoedd hyn bellach wedi'u llenwi.

"Mae rhai bylchau rydym am eu llenwi o ran adloniant a gwasanaethau gan ein bod am gynnig arlwy mor gynhwysfawr â phosib ar y diwrnod."

Os oes angen help arnoch, cysylltwch â Shannon drwy e-bostio shannon.williams@jr-eventsandcatering.co.uk 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Tachwedd 2024