Toglo gwelededd dewislen symudol

Dros £0.5 biliwn y flwyddyn - dyna beth yw gwerth twristiaeth yn Abertawe yn awr

Mae gwerth blynyddol twristiaeth i economi Bae Abertawe wedi mynd yn fwy na £500 miliwn y flwyddyn am y tro cyntaf erioed.

Madness playing in Singleton Park

Madness playing in Singleton Park

Mae ffigurau newydd yn dangos y gwariodd ymwelwyr £510.76 miliwn drwy gydol 2022 yn ardal Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr.

Mae'r ffigurau STEAM (Monitor Gweithgarwch Economaidd Twristiaeth Scarborough) a baratowyd ar gyfer Cyngor Abertawe hefyd yn dangos bod nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu i dros 4.2 miliwn y llynedd, gyda'r diwydiant twristiaeth yn cefnogi 5,190 o swyddi yn yr ardal.

Mae cyfraddau defnydd ystafelloedd mewn gwestai yn galonogol, gydag 80% o'r ystafelloedd yn cael eu defnyddio yn ystod rhai misoedd eleni, yn ôl llwyfan data diwydiant 'Smith Travel Research'. Mae hynny'n uwch na'r blynyddoedd tebyg diweddaraf.

Mae arolwg y cyngor yn dangos bod 67% o fusnesau twristiaeth lleol wedi dweud bod eu perfformiad cyffredinol yn 2022 yn "ardderchog neu'n dda", a bod 88% o fusnesau llety wedi dychwelyd i'r cyfraddau cyn COVID, neu'n agos iawn at wneud hynny.

Mae Bae Abertawe, fel cyrchfan i ymwelwyr, yn cynnig amrywiaeth eang o atyniadau dan do ac awyr agored a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

Mae gweithgarwch marchnata twristiaeth y cyngor yn hyrwyddo'r ardal yn llwyddiannus. Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Rydym yn benderfynol o barhau i roi rhagor o resymau i bobl ymweld â'r ddinas a chynnal y momentwm hwn."

Mae gweithgarwch marchnata twristiaeth y cyngor yn cynnwys sylw gan y cyfryngau cenedlaethol ac allbwn cyfryngau cymdeithasol a dargedir. Roedd ymgyrch cyfryngau awyr agored yn targedu'r tiwb yn Llundain a lleoliadau trafnidiaeth allweddol ar hyd coridor yr M4. Roedd ymgyrch deledu yn y DU wedi cynnwys hysbysebu mewn ardaloedd targed allweddol.

Mae'r cyngor, gyda chefnogaeth gan fusnesau twristiaeth lleol, yn datblygu cynnwys fideo newydd i gefnogi ei ymgyrchoedd.

Bydd y gwaith parhaus i adfywio Abertawe'n parhau i roi hwb i nifer yr ymwelwyr. Bydd agoriad diweddar Penderyn yng Nglandŵr yn rhoi hwb o hyder.

Mwy: Croeso Bae Abertawe - www.croesobaeabertawe.com

Llun: Cyffro ym Mharc Singleton yr haf hwn - mae cyngherddau mawr yn rhan allweddol o haf yn Abertawe.

 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Medi 2023