Craen tyrog ar y safle i helpu i drawsnewid hen safle clwb nos
Dyma sut mae hen safle clwb nos Oceana'n edrych yn awr wrth i waith adeiladu cynnar barhau ar ddatblygiad swyddfa newydd yno a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi.
Mae'r cyntaf o ddau graen tyrog bellach ar y safle yn Ffordd y Brenin, gyda'r sylfeini'n cael eu gosod cyn i'r gwaith ddechrau i adeiladu ffrâm goncrit yr adeilad.
Disgwylir i'r cynllun pum llawr a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe gyda Bouygues UK yn brif gontractwr, gael ei gwblhau yn ystod haf 2023. Bydd y datblygiad newydd yn ddi-garbon o ran ei weithrediad ac yn werth £32.6 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe.
Bydd yn cynnwys 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol gyda chyfleoedd cydweithio a swyddfa hyblyg i fusnesau mewn sectorau fel y rhai technegol a digidol a'r diwydiannau creadigol.
Caiff y datblygiad ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Mae cyrhaeddiad y craen tyrog cyntaf ar y safle'n arwydd arall o'r cynnydd ar gyfer y datblygiad newydd hwn a fydd yn rhoi hwb pellach i'n heconomi drwy ddarparu lle i gannoedd o weithwyr a sbarduno rhagor o bobl i ymweld â masnachwyr canol y ddinas.
"Gwyddwn fod galw heb ei ateb yn Abertawe ar gyfer y math hwn o weithle modern, hyblyg mewn sectorau sy'n tyfu fel technoleg a digidol, felly mae datblygiadau o'r ansawdd hwn yn allweddol os ydym am gadw'r busnesau hyn yn y ddinas a'u hannog i beidio ag adleoli i rywle arall.
"Bydd y cynllun a fydd yn un di-garbon o ran ei weithrediad, hefyd yn helpu i Abertawe fodloni ei uchelgais erbyn 2050, wrth ategu datblygiad yr adeilad byw gerllaw sy'n cael ei arwain gan Hacer Developments a chynhyrchu cysylltiadau llawer gwell rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen.
"Mae trafodaethau â thenantiaid posib hefyd yn gwneud cynnydd parhaus wrth i'n gwaith gwerth £1 biliwn i adfywio'r ddinas gyflymu mwy fyth."
Cynhelir mynediad i fusnesau gerllaw drwy gydol y gwaith adeiladu. Mae arwyneb dros dro wedi'i osod yn fwriadol o flaen safle'r datblygiad a bydd palmant parhaol yn cael ei osod unwaith y bydd y prif waith adeiladu wedi'i orffen.
Bydd nodweddion eraill y datblygiad newydd yn cynnwys teras ar y to a fydd yn wyrdd a balconïau'n edrych dros canol y ddinas a Bae Abertawe.
Gall unrhyw un sydd am dderbyn diweddariadau am y prosiect gofrestru i wneud hynny yn 7172TheKingsway@abertawe.gov.uk