Toglo gwelededd dewislen symudol

Nofel ramantus am Oes Fictoria i'w mwynhau gan ymwelwyr â'r llyfrgell

Mae'r awdur arobryn o benrhyn Gŵyr, Tracy Rees, am fynd ag ymwelwyr â'r llyfrgell yn ôl i Oes Fictoria'r wythnos hon.

Tracy Rees

Tracy Rees

Bydd hi'n cynnal digwyddiad am ddim yn Llyfrgell Tre-gŵyr ddydd Iau rhwng 5.30pm a 6.30pm er mwyn cyflwyno ymwelwyr i'w nofel hanesyddol newydd a gyhoeddwyd gan Pan Macmillan.

Enillodd Tracy, sy'n rhannu ei hamser rhwng Abertawe a Llundain, gystadleuaeth "dod o hyd i awdur arobryn" Richard a Judy ar gyfer ei gwaith cynharach, Amy Snow.

Cynhelir Llyfrgell Tre-gŵyr gan Gyngor Abertawe, sy'n trefnu cyfres o ddigwyddiadau yn ei lyfrgelloedd.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Elliot King, "Mae Tracy yn gefnogwr mawr o'n llyfrgelloedd a bydd yn braf ei chroesawu yn ôl. Rydym yn gyffrous i gynnal y digwyddiad hwn a chynnig noson ddifyr a llawn adloniant i bawb."

Bydd Tracy'n trafod ei nofel ramantus hanesyddol ddiweddaraf, The Elopement, sydd ar werth nawr gan Pan Macmillan.

Llun: Tracy Rees.

 

 

Close Dewis iaith