Masnachwyr ifanc gam yn nes at wobr genedlaethol
Bydd pedwar masnachwr marchnad o De Cymru'n arddangos eu sgiliau yn rownd derfynol cystadleuaeth ledled y DU.
Nhw oedd y cystadleuwyr yn y safle uchaf yn rownd derfynol ranbarthol Cystadleuaeth Marchnad Masnachwyr Ifanc Cenedlaethol a gynhaliwyd yng nghanol dinas Abertawe.
Mae'r cystadleuwyr yn cynnwys Caitlin Penry, o fusnes gemwaith Caerynys Shed(Abertawe),Anthony Johnson, o AJ The Confectionist (Llanelli), Bianca Samuel, o Austringer Cider (Port Talbot) a Harry White, o Blanc Homeware (Aberhonddu).
Cynhaliwyd rownd derfynol De Cymru gan Farchnad Abertawe a reolir gan y cyngor. Ariannwyd y digwyddiad drwy Gronfa Fusnes Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Meddai cyd-ddirprwy arweinydd ac Aelod Cabinet y Cyngor, David Hopkins: "Gwnaeth ansawdd y cynigion ac uchelgeisiau'r masnachwyr ifanc argraff fawr ar ein beirniaid. Rydym yn dymuno'r gorau iddynt wrth iddynt barhau â'u hymdrechion i fasnachu yn y farchnad."
Dangosodd masnachwyr Marchnad Abertawe eu cefnogaeth i'r masnachwyr ifanc.
Meddai Wayne Holmes o Market Spares, "Roedd hi'n wych gweld y genhedlaeth nesaf o fasnachwyr gyda chynhyrchion nad ydych fel arfer yn dod o hyd iddynt mewn marchnad draddodiadol."
Meddai Ian Curtis o Storm in a Teacup, "Roedd hi'n galonogol gweld masnachwyr ifanc sy'n cychwyn ar eu busnesau. Gobeithio y byddant yn ymuno â ni yn barhaol yn ein marchnad cyn bo hir."
Cynhelir y gystadleuaeth, sy'n agored i unrhyw fasnachwr ifanc rhwng 16 a 30 oed, gan Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Marchnad (NMTF).
Fe'u beirniadwyd gan oruchwyliwr Marchnad Abertawe, Darren Cox, a'r entrepreneuriaid ifanc, Joelle Drummond a Sarah McNena, o gwmni Drop Bear Beer yn Abertawe.
Disgwylir i'r rownd derfynol genedlaethol gael ei chynnal yn Stratford-upon-Avon ar 26 a 27 Awst.
Llun: Busnes Gemwaith Caerynys Shed