Ap newydd yn dod â mwynhad newydd i rannau hanesyddol o Abertawe
Gall defnyddwyr ffonau clyfar ddefnyddio'u dyfeisiau yn awr i archwilio hanes, diwylliant a straeon Abertawe.


Mae'r ap Llwybrau Tawe sydd am ddim yn cynnig ffeithiau, mapiau rhyngweithiol a chanllawiau sain ar chwe llwybr treftadaeth yng Nghwm Tawe Isaf.
Gall y rheini sy'n ei lawrlwytho ddarganfod harddwch naturiol a threftadaeth yr ardal.
Datblygwyd yr ap sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys sain, gan dîm adfywio Cyngor Abertawe ac fe'i hariannwyd gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor, "Rydym yn adfywio Cwm Tawe Isaf a bydd yr ap newydd hwn yn helpu pobl i ddeall pam mae'r ardal mor bwysig i'r ddinas gyfan.
"Bydd yn helpu i adrodd stori treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Abertawe wrth genedlaethau newydd.
"Mae hwn yn amser cyffrous i'r ardal honno gan ein bod ni ac eraill yn bwriadu buddsoddi degau o filiynau o bunnoedd yno."
Dyma'r chwe llwybr sydd i'w cael yn yr ap:
· Gwaith Copr yr Hafod-Morfa
· Y Garreg Wen
· Parc Llewelyn
· Camlas Tawe yng Nghlydach
· Parc Treforys
· Cwm Tawe Isaf
Mae nodweddion yr ap yn cynnwys golygfeydd lloeren a golygfeydd stryd, pinnau cyfeirbwynt, delweddau o ansawdd uchel, fframiau cerdyn post hunlun, gosodiadau hygyrchedd ac ymarferoldeb all-lein.
Mae adeiladau hanesyddol yn yr ardal - fel Tai Injan Vivian a Musgrave - yn cael eu hachub a'u hailbwrpasu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mewn man arall yng Nghwm Tawe Isaf mae cais cynllunio ar gyfer cyrchfan hamdden awyr agored pwysig gan y gweithredwr o'r radd flaenafSkylinewedi'i gymeradwyo.
Mae ap Llwybrau Tawe ar gael drwy'r siop iTunes a Google Play.
Llun: Castell Morris adeg machlud haul.