Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ap newydd yn dod â mwynhad newydd i rannau hanesyddol o Abertawe

​​​​​​​Gall defnyddwyr ffonau clyfar ddefnyddio'u dyfeisiau yn awr i archwilio hanes, diwylliant a straeon Abertawe.

Morris Castle

Morris Castle

Mae'r ap Llwybrau Tawe sydd am ddim yn cynnig ffeithiau, mapiau rhyngweithiol a chanllawiau sain ar chwe llwybr treftadaeth yng Nghwm Tawe Isaf.

Gall y rheini sy'n ei lawrlwytho ddarganfod harddwch naturiol a threftadaeth yr ardal.

Datblygwyd yr ap sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys sain, gan dîm adfywio Cyngor Abertawe ac fe'i hariannwyd gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor, "Rydym yn adfywio Cwm Tawe Isaf a bydd yr ap newydd hwn yn helpu pobl i ddeall pam mae'r ardal mor bwysig i'r ddinas gyfan.

"Bydd yn helpu i adrodd stori treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Abertawe wrth genedlaethau newydd.

"Mae hwn yn amser cyffrous i'r ardal honno gan ein bod ni ac eraill yn bwriadu buddsoddi degau o filiynau o bunnoedd yno."

Dyma'r chwe llwybr sydd i'w cael yn yr ap:

·       Gwaith Copr yr Hafod-Morfa

·       Y Garreg Wen

·       Parc Llewelyn

·       Camlas Tawe yng Nghlydach

·       Parc Treforys

·       Cwm Tawe Isaf

Mae nodweddion yr ap yn cynnwys golygfeydd lloeren a golygfeydd stryd, pinnau cyfeirbwynt, delweddau o ansawdd uchel, fframiau cerdyn post hunlun, gosodiadau hygyrchedd ac ymarferoldeb all-lein.

Mae adeiladau hanesyddol yn yr ardal - fel Tai Injan Vivian a Musgrave - yn cael eu hachub a'u hailbwrpasu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mewn man arall yng Nghwm Tawe Isaf mae cais cynllunio ar gyfer cyrchfan hamdden awyr agored pwysig gan y gweithredwr o'r radd flaenafSkylinewedi'i gymeradwyo.

Mae ap Llwybrau Tawe ar gael drwy'r siop iTunes a Google Play.

Llun: Castell Morris adeg machlud haul.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Mai 2025