Preswylwyr Abertawe'n cael eu hannog i gerdded ar lwybrau i gael hwyl yn y flwyddyn newydd
Mae pobl ar draws Abertawe yn cael eu hannog i gerdded ar lwybrau i fwynhau eu hardal leol.
Mae ymgyrch newydd y cyngor sef Profwch ein Llwybrau yn cynnig amrywiaeth o deithiau lleol iach, rhad a difyr i ddarganfod yr ardal.
Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Mae amrywiaeth eang o lwybrau llawn ysbrydoliaeth yn aros i gael eu harchwilio. Gallwch eu mwynhau am gost isel ac ar adeg sy'n gyfleus i unigolion, cyplau a theuluoedd."
Caiff amrywiaeth cychwynnol o lwybrau eu dangos ar y wefan croesobaeabertawe.com Disgrifir nifer o syniadau yno hefyd.
Gall y cyhoedd rannu lluniau a sylwadau ar eu hanturiaethau eu hunain ar y llwybrau drwy eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r stwnshnod #ProfwchEinLlwybrau.
Mae'r llwybrau'n amrywio o deithiau trefol diwylliannol o gwmpas amgueddfeydd a lleoliadau celf y ddinas i hirdaith llawn golygfeydd naturiol yng nghefn gwlad.
Un antur yw llwybr diwylliannol canol y ddinas. Mae'r llwybr hwn yn cynnwys amrywiaeth o leoliadau sy'n ymwneud â'r celfyddydau gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe, Arddangosfa Dylan Thomas ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Gallwch gael mynediad i'r pedwar lleoliad hyn am ddim.
Llun: Masgot Joio Bae Abertawe, Jo Joio, yn Amgueddfa Abertawe.