Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithwyr bellach yn y swyddfa newydd yn Abertawe

Mae staff y cwmni teithio a hamdden TUI wedi cynnal digwyddiad agor swyddogol yn eu swyddfeydd newydd yng nghanol dinas Abertawe.

Tui official opening at 71/72 Kingsway

Tui official opening at 71/72 Kingsway

Maen nhw ymhlith y tenantiaid yng nghynllun 71/72 Ffordd y Brenin ar safle hen glwb nos Oceana.

Mae wyth deg y cant o'r swyddfeydd yn y datblygiad bellach wedi'i osod a disgwylir cyhoeddiadau pellach am denantiaid dros yr wythnosau nesaf.

Mae'r tenantiaid eraill sydd wedi'u cadarnhau hyd yn hyn yn cynnwys IWG a'r cwmni ariannol Futures First.

Bydd lle i 600 o weithwyr yng nghynllun 71/72 Ffordd y Brenin a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac a ariannwyd yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Roedd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, yn bresennol yn nigwyddiad agoriadol swyddogol TUI.

Meddai, "Mae'n wych gweld cwmni TUI yn y datblygiad newydd, yn ymuno â staff o Futures First yn y cynllun.

"Mae cynlluniau fel hyn yn bwysig gan eu bod yn helpu i gadw busnesau a swyddi yn Abertawe, gan hefyd greu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl leol.

"Mae preswylwyr yn aml yn gofyn pam nad yw mwy o siopau yn agor yng nghanol y ddinas, ond y realiti yw, o ystyried heriau fel siopa ar-lein, mae angen llawer mwy o bobl yng nghanol y ddinas i gyrraedd y lefelau o ymwelwyr a gwariant y bydd eu hangen ar siopau er mwyn iddynt ystyried agor yma.

"Bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin, ar y cyd ag eraill, yn helpu i gyrraedd y nifer hwnnw o ymwelwyr wrth i raglen adfywio gwerth dros £1bn barhau i drawsnewid ein dinas."

Mae'r cynllun 104,000 troedfedd sgwâr yn cynnwys teras gwyrdd ar y to sydd â golygfeydd dros Fae Abertawe, ynghyd â phaneli solar ar ben yr adeilad a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.

Mae cyswllt newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen hefyd yn rhan o'r cynllun.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Hydref 2025