Toglo gwelededd dewislen symudol

Dau gwmni newydd yn Abertawe wedi'u henwi ymysg y gorau yng Nghymru

Mae dau gwmni newydd yn Abertawe wedi'u henwi ymysg y gorau yng Nghymru.

Louise & Jess (The Cusp)

Louise & Jess (The Cusp)

Yn rownd derfynol ranbarthol gwobrau busnes newydd y DU, gwnaeth The Cusp ennill yng nghategori busnes marchnata, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus newydd y flwyddyn, a gwnaeth Hannah Worth o fusnes Bowla - a Bowl with a Roll, ennill yng nghategori entrepreneur ifanc y flwyddyn.

Cefnogwyd The Cusp gan grant datblygu gwefannau a grant twf busnesau gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Cefnogwyd Bowla - a Bowl with a Roll - gan grant datblygu gwefannau.

Mae gan The Cusp, a sefydlwyd gan Jess Hickman a Louise Rengozzi, gleientiaid ar draws y DU yn ogystal ag yn Abu Dhabi.

Meddai Louise, "Mae ennill y wobr hon yn garreg filltir enfawr i ni.

"Mae'n rhoi ymdeimlad mawr o gyflawniad i ni ac yn arwydd ein bod ni'n gwneud rhywbeth yn iawn. 

"Dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf rydym wedi gwneud cynnydd anhygoel, ac ni fyddai hynny wedi bod yn bosib heb gefnogaeth ymgynghorwyr busnes Cyngor Abertawe o'r dechrau.

"Mae eu harweiniad, ynghyd â chymorth y Gronfa Ffyniant Gyffredin, wedi ein helpu i dyfu â phwrpas, creu swyddi lleol a buddsoddi mewn pobl.

"Rydym yn falch iawn o fod yn adeiladu rhywbeth sy'n cefnogi gyrfaoedd a'r dyfodol yma yn Abertawe."

Mae Bowla - a Bowl with a Roll - yn bopty bach a lleoliad cinio ym Marchnad Abertawe.

Bowla Swansea Market

Meddai Hannah Worth, a sefydlodd y busnes gyda'i thad, "Rwy'n falch iawn bod fy ngwaith caled yn cael ei gydnabod yn rhanbarthol.

"Mae wedi gwneud i fi fyfyrio ar lwyddiannau a pheryglon dechrau busnes o'r dechrau.

"Rwy'n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth rydym wedi'i derbyn gan y cyngor a'n cwsmeriaid."

Bydd The Cusp a Hannah bellach yn cystadlu yn erbyn enillwyr rhanbarthol eraill yn rownd derfynol y gwobrau ar draws y DU.

O sylfaenwyr The Great British Entrepreneur Awards a Mynegai Fast Growth 50, mae gwobrau busnes newydd y DU yn cynnig y cyfle i fusnesau gael cydnabyddiaeth, cynyddu amlygrwydd y brand, gwneud cysylltiadau yn y diwydiant, a rhwydweithio â buddsoddwyr posib - a'r cyfan wrth ddathlu cyflawniadau busnesau newydd sydd ar ddechrau eu teithiau busnes.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Gorffenaf 2025