Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Arwyr cymunedol di-glod Abertawe'n derbyn clod am eu cefnogaeth yn ystod y pandemig

Cafodd arwyr cymunedol di-glod sydd wedi helpu pobl Abertawe drwy'r pandemig eu hanrhydeddu mewn digwyddiad arbennig.

Trophy recipient Bukky Okunade

Trophy recipient Bukky Okunade

Cyflwynwyd tystysgrifau i dros 80 o unigolion a sefydliadau, a rhoddwyd gwobrau i 34 eraill.

Roedd y cymorth y maent wedi'i ddarparu i gymunedau lleol yn ystod argyfwng COVID wedi amrywio o gyflenwi bwydydd mewn argyfwng i sgyrsiau cymdeithasol ar-lein a dosbarthu meddyginiaethau hanfodol i siopa ar ran teuluoedd.

Trefnwyd y noson wobrwyo ar gyfer yr Arwyr Cymunedol Di-glod yn Neuadd Brangwyn gan Gyngor Abertawe.    

Fe'i cefnogwyd gan bartneriaid fel Cymorth Iechyd Meddwl BAME, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, Prifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Meddai Dirprwy Brif Weithredwr y cyngor, Adam Hill, "Mae'r pandemig wedi cyflwyno heriau newydd a brawychus i'n cymunedau.

"Gwasanaethodd y cyngor a sefydliadau eraill mewn ffyrdd newydd gyda sgil ac ymroddiad, fel yr holl arwyr cymunedol a dderbyniodd clod yn Neuadd Brangwyn.

"Gwnaethant ymdrech arbennig i helpu pobl ar draws ein cymunedau amrywiol i ymdopi yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn anodd i sawl un ohonom.

"Rydym yn diolch iddynt i gyd am eu holl ymdrechion. Maent wedi cynnal y safon ar gyfer ysbryd cyhoeddus cryf ein hardal ac maent yn parhau i wneud hynny, ac maent yn hanfodol ar gyfer cydlyniant cymunedol."

Pan gyrhaeddodd COVID ar ddechrau 2020, roedd unigolion a sefydliadau ar draws Abertawe yn barod i helpu eraill mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd.

Roedd eu gwaith rhagorol a'u cyfraniadau eithriadol i'r gymuned yn gymorth mawr i filoedd o bobl.

Eleni, gofynnodd swyddogion cydlyniant cymunedol y cyngor i'r cyhoedd enwebu eu harwyr di-glod, a derbyniwyd cannoedd o enwebiadau.

Roedd y digwyddiad a ddilynodd yn Neuadd Brangwyn yn cynnwys cerddoriaeth, bwyd ac adloniant a ddarparwyd gan bobl a sefydliadau o gymunedau lleol.

Roedd y rheini a anrhydeddwyd yn cynnwys y grwpiau a'r unigolion hyn.

Astudiaethau achos enillwyr gwobrau arwyr di-glod

Gwasanaeth Cymuned Foslemaidd Abertawe

Sefydlwyd Gwasanaeth Cymuned Foslemaidd Abertawe gan Aisha Rayhanna Amer yn ystod y pandemig. Gwnaeth hyn er mwyn ymateb i ddifrifoldeb y sefyllfa, wrth i nifer o deuluoedd ei chael hi'n anodd i brynu hanfodion.

Gweithiodd gyda menywod eraill yn Abertawe i helpu aelodau diamddiffyn yn y gymuned leol. Mae gwirfoddolwyr y gwasanaeth yn cynnwys Aisha, Gulnahar Begum, Momena Ali, Shehla Khan, Khadija Salla Adeela Rashid, Farhana Ali, Fatiha Rahman a Shaz Abedean.

Gwnaethant ddosbarthu pecynnau bwyd a hanfodion a dyma'r unig wasanaeth i weithredu saith niwrnod yr wythnos ar gyfer pobl a oedd yn hunanynysu ledled Abertawe a rhai ardaloedd yn Llanelli a Phontardawe.

Wrth ddosbarthu nwyddau un diwrnod, achubodd Aisha fywyd rhywun. Pan fethodd defnyddiwr y gwasanaeth i ateb y drws, sylweddolodd fod rhywbeth o'i le, felly ffoniodd 999 ar unwaith. Heb weithred gyflym Aisha, gallai'r dyn fod wedi marw.

Casglodd aelodau'r gwasanaeth arian ac aethant ati i ymuno â Chyngor Abertawe, banc bwyd Mosg Abertawe a rhaglen Fareshare er mwyn iddynt allu cyrraedd cynifer o gymunedau â phosib.

Y Teulu Lloyd

Ar ddechrau pandemig COVID-19, roedd y teulu Lloyd, sy'n cynnwys Claire, Lottie, Edward a Cassie, yn un o'r rhai cyntaf i gofrestru gyda chydlynwyr ardaloedd lleol fel hyrwyddwyr stryd yn ardal Uplands. Ers y cyfnod hwnnw, maent wedi darparu gwasanaeth gwerthfawr i gymdogion, gan gynnwys menyw hŷn, ynysig a oedd yn byw gerllaw. Mae'r plant yn enwedig wedi cynnig cymorth rhagorol iddi trwy alw heibio'n rheolaidd i ofyn a oes angen rhywbeth arni. Maent yn ei diddanu trwy adrodd straeon am yr ysgol a gweithgareddau eraill. Mae'r fenyw'n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth wych.

Cymorth Iechyd Meddwl BAME (BMHS)

Mae BMHS yn sefydliad y gellir ymddiried ynddo o ran canllawiau iechyd cyhoeddus a gwybodaeth iechyd o ran ymyrryd yn gynnar ar gyfer lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Chwaraeodd y sefydliad rôl allweddol yn ystod y pandemig, gan gynnwys cynnal ymgyrchoedd gwybodaeth am frechiadau a darparu cefnogaeth i aelodau diamddiffyn yn y gymuned.

Mae llwyddiannau eraill yn cynnwys codi proffil Deddf Iechyd Meddwl 1983 a chyfrannu at nodau ac amcanion cyffredinol Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru.

Arweinir y sefydliad gan Alfred Oyekoya. Mae wedi helpu i ddarparu hyfforddiant, sesiynau ymwybyddiaeth o iechyd a gwersi dawnsio, yn ogystal â helpu llawer o aelodau'r gymuned mewn ffyrdd ymarferol a phendant.

Lizan Abdullah

Derbyniodd Lizan oddeutu 20 enwebiad ar gyfer y gwobrau Arwyr Cymunedol Di-glod. Ers iddi gyrraedd y DU yn 2019, mae wedi cefnogi aelodau'r gymuned Gwrdaidd ar draws Cymru ac yn enwedig yn Abertawe. Mae'n aelod o Gymdeithas Cwrdaidd Cymru Gyfan. Mae Lizan yn gwirfoddoli gyda sawl sefydliad gan ddarparu amrywiaeth o gefnogaeth. Yn ystod COVID-19, helpodd aelodau difreintiedig y gymuned trwy gynnal banciau bwyd a chyfieithu ar eu cyfer. Yn fwy diweddar, dechreuodd Lizan wersi Cwrdeg i blant Cwrdaidd yn Abertawe ac mae'n helpu menywod i ddysgu Saesneg.

Annaliese Gower

Mae Annaliese wedi bod yn aelod o'r pwyllgor yng Nghanolfan Gymunedol De Pen-lan ers pum mlynedd. Mae wedi gweithio y tu ôl i'r llenni yno trwy gydol y pandemig gan ymgymryd â llawer o rolau a chyfrifoldebau.

Ar ôl i fanc bwyd mewn ymateb i ddechrau COVID ddod i ben, daeth y pwyllgor yn bartner i Ymddiriedolaeth Trussel er mwyn parhau i ddarparu'r gwasanaeth pwysig hwn. Ers hynny, mae'r banc bwyd wedi cefnogi hyd at 20 teulu yr wythnos. Mae'n gweithio mewn partneriaeth â sawl sefydliad a gwasanaeth arall.

Yn ogystal, mae Annaliese hefyd wedi sefydlu banc gwisg ysgol. Croesawyd hyn gan y bobl leol. Mae hefyd wedi trefnu sawl disgo er mwyn i deuluoedd ddod at ei gilydd; mae'n deall bod mynd i bartïon a gwisgo i fyny yn fuddiol ar gyfer datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant.  Mae gan Annaliese gynlluniau eraill ar gyfer codi arian a dod â'r gymuned at ei gilydd.

Bukky Okunade

Pan roedd yn 27 oed, collodd Bukky ei gŵr bedwar mis ar ôl iddynt briodi yn Abertawe. Serch hynny, ymgysylltodd â phobl eraill a oedd yn galaru o ganlyniad i COVID-19. Gwirfoddolodd er mwyn darparu cefnogaeth profedigaeth dros y ffôn i leiafrifoedd ethnig yn Abertawe. Mae'n defnyddio'i sgiliau amlieithog i normaleiddio sgyrsiau am alar ac mae'n gwirfoddoli gyda Chymorth Iechyd Meddwl BAME. 

Dr Rashid Malik

Mae Dr Malik yn arwain Gwasanaeth Lletygarwch Moslemaidd Abertawe; mae'r gwasanaeth yn darparu bwyd poeth a chyfleoedd cyson i ymgysylltu ar gyfer pobl ddigartref a ffoaduriaid.

Yn ystod COVID-19, parhaodd i gefnogi pobl mewn angen a'r rheini a oedd yn hunanynysu trwy ddarparu pecynnau bwyd a chymorth arall. Helpodd i ddarparu bwyd i staff y GIG er mwyn dangos gwerthfawrogiad. Trefnodd anrhegion a chinio Nadolig i bobl ddigartref.

Mae llawer o bobl o fewn y gymuned yn adnabod Dr Malik ac mae ganddo gysylltiadau â sefydliadau gwahanol sy'n cefnogi pobl ddifreintiedig. Mae aelodau o gredoau a grwpiau cymunedol gwahanol yn gwerthfawrogi ei waith.

Mae'r adborth cadarnhaol a roddwyd am elusen a sefydlodd, Sameera Foundation, a'i dudalennau Facebook yn dangos tystiolaeth o'i waith gwerthfawr o ran cydlyniant cymunedol.

Llun: Derbynnydd gwobr Arwyr Cymunedol Di-glod Bukky Okunade.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Mawrth 2022