Y Cyngor yn trefnu digwyddiadau i goffáu Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop
Mae dathliadau Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop (VE) yn agosáu a gall preswylwyr Abertawe gymryd rhan drwy gynnal eu partïon stryd eu hunain.

Mae'r cyngor wedi hepgor ffïoedd cau ffyrdd i bobl leol sydd am gau eu stryd ar gyfer partïon i ddathlu 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r cam hwn yn rhan o amrywiaeth o ddathliadau a digwyddiadau coffa a gaiff eu cynnal a'u cefnogi gan y cyngor yn ystod yr haf rhwng Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop ar 8 Mai a Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Japan ar 15 Awst.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "O ganlyniad i bandemig Covid, bu'n rhaid i ni i gyd ddathlu 75 mlynedd ers Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop yn ein cartrefi ein hunain er mwyn diogelu'r wlad.
"Dyna pam rydym am wneud popeth y gallwn eleni i wneud y garreg filltir yn fwy arbennig i gyn-filwyr, eu teuluoedd a phobl Abertawe. Rydym yn nyled y bobl a fu'n gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd - ac ni fyddwn byth yn gallu ad-dalu'r ddyled honno.
"O ganlyniad i'n cysylltiadau â'r Llynges Fasnachol, y Blitz Tri Diwrnod a effeithiodd ar yr ardal a'r miloedd lawer a fu'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, mae Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop yn rhan hanfodol o'n treftadaeth.
"Yn ogystal â hepgor ffïoedd cau ffyrdd ar gyfer partïon stryd, byddwn yn cefnogi gweithgareddau coffa a digwyddiadau'r Lleng Brydeinig Frenhinol i ddathlu'r achlysur hanesyddol hwn."
Ychwanegodd, "Bydd blas Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop ar Sioe Awyr Cymru eleni a gynhelir gan y cyngor, gan gynnwys Hediad Coffa Brwydr Prydain a'r Red Arrows. Bydd y cyngor hefyd yn gosod Pentref Cyn-filwyr arbennig yn ystod y digwyddiad deuddydd ym mis Gorffennaf."
Meddai'r Cyng. Elliott King, Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant, "Mae'r genhedlaeth a fu'n gwasanaethu ein cenedl ac achos rhyddid ledled y byd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn diflannu.
"Dyma un o'r rhesymau pam mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn dathlu 80 mlynedd ers Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop mewn modd arbennig.
"Ar 8 Mai, bydd Castell Ystumllwynarth yn goleuo ffagl y castell a'r lamp heddwch fel rhan o'r dathliadau cymunedol a fydd yn cynnwys cerddoriaeth o'r cyfnod a gwesteion arbennig.
"Mae Amgueddfa Abertawe hefyd wedi lansio arddangosfa i goffáu Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop a gynhelir tan yr haf."
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pedwar diwrnod o ddigwyddiadau coffa, gan ddechrau ar Ŵyl y Banc ar 5 Mai a gorffen ar Ddiwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop ei hun, sef 8 Mai.
Cewch ragor o wybodaeth am sut i gau ffordd ar gyfer eich parti stryd. Cynghorir unrhyw un sy'n trefnu parti stryd i yswirio ei ddigwyddiad: https://www.abertawe.gov.uk/trefnupartistryd
A dyma fanylion am ddigwyddiadau Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop a gefnogir gan y cyngor:
O 11 Ebrill
Amgueddfa Abertawe - Arddangosfa VE80
8 Mai
Christchurch - Gwasanaeth Diwrnod VE ar gyfer Cyn-filwyr, 11.30am
Castell Ystumllwynarth - Goleuo'r ffagl am 9.30pm
Neuadd y Ddinas, Abertawe
Goleuadau i goffáu Diwrnod VE
11 Mai
Digwyddiad i goffáu Diwrnod VE, Gwn Gwrthawyrennol, Pont Tawe
Gorymdaith i goffáu Diwrnod VE o Dŷ John Chard am 1.30pm i gyrraedd Mystwyr Abertawe (Eglwys y Santes Fair) am 2pm
Gwasanaeth i goffáu Diwrnod VE, Mystwyr Abertawe (Eglwys y Santes Fair), canol y ddinas, 1.45pm
Ar gael nawr
Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Darllenwch am hanes Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd drwy ddilyn y dolenni hyn
https://www.abertawe.gov.uk/archifaurhyfelailadeiladu
https://www.abertawe.gov.uk/archifaublits
https://www.abertawe.gov.uk/archifaublitstairnoson
https://www.abertawe.gov.uk/cofebaurhyfelcudd
Oriel Gelf Glynn Vivian
Mae detholiad o ddarnau o Gasgliad Parhaol yr Oriel yn Ystafell 7, gan gynnwys cyfres Will Evans o baentiadau am y Blitz Tair Noson yn Abertawe, Coed Mametz gan Edward Handley-Read, a gwaith Ceri Richards.
Ar-lein ceir adran sy'n ymroddedig i waith Will Evans ar ein gwefan, lle gallwch hefyd wrando ar hanesion llafar o gasgliad yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (IWM).
https://www.glynnvivian.co.uk/casgliadau/blitz-tair-noson-abertawe/?lang=cy