Toglo gwelededd dewislen symudol

Arddangos cyfnodau llwyddiannus y Vetch ar fyrddau treftadaeth

Mae byrddau treftadaeth newydd sy'n coffáu digwyddiadau pwysig a chwaraewyr enwog sy'n gysylltiedig â chae'r Vetch wedi'u creu ar ôl i Gyngor Abertawe a Phartneriaeth Abertawe Mwy Diogel weithio mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

Vetch Heritage Boards

Vetch Heritage Boards

Roedd y Vetch yn gartref i'r Elyrch rhwng 1912 a 2005, ac mae'r ardal yn parhau i fod yn ganolbwynt i'r gymuned leol gyda mannau gwyrdd lleol pwysig, rhandiroedd cymunedol, perllannau a mannau chwarae amrywiol.

Ymunodd rhai o enwogion Abertawe, Alan Curtis, Leon Britton a Lee Trundle, ag Aelod Cabinet y Cyngor dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, a chynrychiolwyr o Abertawe Mwy Diogel ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe, i edrych ar y byrddau.

Meddai'r Cynghorydd Gwilliam, "Mae'r byrddau hyn yn dathlu hanes cyfoethog chwaraeon y safle hwn. Cynhaliwyd gemau rhyngwladol ar y safle, fel gemau pêl-droed a rygbi'r gynghrair a hyd yn oed gornestau paffio.

"Roedd y Vetch yn gartref i dîm pêl-droed Dinas Abertawe am ychydig llai na chanrif ac mae'r byrddau hyn yn dathlu sawl digwyddiad cofiadwy."

Close Dewis iaith