Llun yn dangos dyfodol cyffrous ar gyfer sglefrfyrddio ym Mharc Victoria
Mae'r llun hwn yn dangos sut y bydd cyfleuster tebyg i sgwâr stryd ar gyfer sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog eraill yn edrych ym Mharc Victoria.


Cyn bo hir bydd Cyngor Abertawe'n hysbysebu ar gyfer contractwr i gwblhau'r gwaith gwella yn yr ardal o'r parc lle mae ramp sglefrfyrddio ar hyn o bryd.
Mae'r dyluniad yn dilyn ymgynghoriad â sglefrfyrddwyr, selogion chwaraeon olwynog eraill a phreswylwyr lleol, lle rhoddwyd ystyriaeth i gannoedd o sylwadau.
Mae'r gwaith gwella, sy'n cynnwys gweithio'n agos gydag arbenigwyr yn Curve Studio, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £2.8m gan Gyngor Abertawe mewn cyfleusterau chwaraeon olwynog yn y ddinas.
Disgwylir i'r gwaith ddechrau ym Mharc Victoria ym mis Awst gyda'r nod o'i orffen erbyn diwedd y flwyddyn.
Ni fydd y gwelliannau hyn yn effeithio ar yr holl rannau eraill o'r parc.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym eisiau gwneud Abertawe'n un o'r cyrchfannau gorau yn y DU ar gyfer sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog eraill er mwyn diwallu anghenion a bodloni dyheadau pobl ifanc leol.
"Dyna pam y mae buddsoddiad o bron £3m yn parhau ar draws y ddinas, sy'n golygu na fydd yn rhaid i bobl yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn Abertawe deithio dros ddwy filltir i ddod o hyd i gyfleuster wedi'i wella.
"Mae ein partneriaid yn Curve Studio wedi cael llwyddiant blaenorol yn cyflwyno cyfleusterau chwaraeon olwynog o safon uchel mewn rhannau eraill o'r DU a thu hwnt.
"Mae'r gwaith a gynlluniwyd ar gyfer Parc Victoria yn debyg i lawer o brosiectau eraill sydd naill ai wedi'u cwblhau neu yn yr arfaeth ar gyfer y dyfodol agos."
Mae parciau sglefrio mewn cymdogaethau sydd wedi'u gwella bellach ar agor i'w defnyddio ym Mharc Coed Bach ym Mhontarddulais a Pharc Melin Mynach yng Ngorseinon.
Mae safleoedd eraill a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer gwelliannau i barciau sglefrio mewn cymdogaethau yn cynnwys Mynydd Newydd ym Mhen-lan a Chanolfan y Ffenics yn Townhill.
Mae cynlluniau hefyd ar gyfer trac pwmpio newydd i feicwyr BMX newydd ac iau ym Melin Mynach, a bydd y trac pwmpio presennol yn Nyffryn Clun yn cael ei adnewyddu.
Mae ymgynghori'n parhau ynghylch parc sglefrio gwell yn Ynystawe, cyfleuster beicio bach ym Mlaen-y-maes, cyfleuster sy'n canolbwyntio ar feicio BMX yn Nhre-gŵyr a thrac pwmpio yn Llandeilo Ferwallt.
Bydd manylion safleoedd eraill i elwa'n cael eu cyhoeddi maes o law.
Mae'r buddsoddiad cyffredinol yn cynnwys cyllid gan aelodau ward, y gronfa buddsoddi cymunedol, cynghorau cymuned a thref a Llywodraeth Cymru drwy grant teithio llesol.