Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith yn dechrau i lunio cynigion ar gyfer parc sglefrio

Bydd gwaith yn dechrau cyn bo hir i lunio cynigion cychwynnol ar gyfer darparu gwell cyfleusterau sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog ledled Abertawe.

Skateboarder

Skateboarder

Mae'n rhan o ymrwymiad Cyngor Abertawe i fuddsoddi mwy na £2m mewn llawer o'r cyfleusterau hyn drwy weithio mewn partneriaeth agos â chymunedau lleol a chwmni arbenigol o'r enw Curve Studio.

Y dyluniadau cynnar ar gyfer Parc Victoria fydd y rhai cyntaf a fydd ar gael i dderbyn adborth, a bydd gweithdy'n cael ei gynnal cyn bo hir i benderfynu a fyddai cyfleuster arddull sgwâr stryd uchelgeisiol yn addas yn lleoliad presennol y ramp sglefrfyrddio sydd yno.

Ni fyddai'r cynnig yn effeithio ar ardaloedd eraill o Barc Victoria.

Cynhelir y gweithdy a fydd yn edrych ar y safle hwn yn unig yn Neuadd y Ddinas Abertawe a bydd yn cynnwys dwy sesiwn nos Fawrth 22 Hydref:

  • 5pm i 6.30pm i sglefrfyrddwyr a reidwyr
  • 7pm i 8.30pm i aelodau eraill y cyhoedd

Gofynnir i'r rheini sy'n dod i'r gweithdy fynd i brif dderbynfa Neuadd y Ddinas, lle cânt eu cyfeirio at yr ystafell lle cynhelir y gweithdy.

Mae cynllun gwella ar gyfer llawer o safleoedd sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog eraill ledled Abertawe hefyd yn cael ei drafod ar hyn o bryd.

Bydd gweithdai tebyg yn cael eu cynnal mewn ardaloedd eraill yn y ddinas lle bydd gwelliannau i gyfleusterau sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog yn cael yr effaith fwyaf bosib.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog yn boblogaidd iawn yn Abertawe ond mae angen i ni wella ac uwchraddio'r cyfleusterau presennol.

"Dyna pam rydym yn buddsoddi mwy na £2m yn y cyfleusterau hyn i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion ac yn bodloni dyheadau pobl leol.

"Mae casglu adborth gan sglefrfyrddwyr a phobl eraill sy'n mwynhau chwaraeon olwynog yn allweddol i'n cynnig wrth i ni barhau i weithio mewn partneriaeth agos â'r arbenigwyr yn Curve Studio, sydd ag enw da am ddylunio cyfleusterau o'r radd flaenaf yn y DU a thramor.

"Parc Victoria fydd y cyntaf o nifer o gyfleusterau ledled Abertawe i elwa o'r gwaith hwn, felly byddem yn annog pobl i ddod i'r gweithdy i roi eu hadborth ar gynigion dylunio cychwynnol y safle.

"Mae'r gwaith hwn yn rhan o gynllun cyffredinol i sicrhau nad oes rhaid i'r rhan fwyaf o bobl deithio mwy na 2 filltir i gyrraedd cyfleuster sglefrfyrddio neu chwaraeon olwynog wedi'i ailddatblygu yn Abertawe."

Mae gweithdy sglefrfyrddio Parc Victoria yn dilyn ymgynghoriad ar-lein a sesiynau galw heibio a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Cymerodd dros 300 o bobl ran, gan helpu Curve Studio i gael rhagor o wybodaeth am farn y cyhoedd ac i chwilio am safleoedd posib.

Meddai Jeremy Donaldson o Curve Studio, "Mae buddsoddiad y Cyngor yn golygu bydd Abertawe'n dod yn un o ddinasoedd gorau'r DU ar gyfer sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog.

"Ers yr ymgynghoriad cychwynnol rydym wedi bod yn brysur yn gweithio ar safleoedd posib ar draws y ddinas ac yn paratoi cysyniadau dylunio addas. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chymunedau lleol i ddatblygu'r prosiectau hyn.

"Bydd gweithdy sglefrfyrddio Parc Victoria yn rhoi'r cyfle i sglefrfyrddwyr, pobl sy'n dwlu ar chwaraeon olwynog ac aelodau eraill o'r cyhoedd weld yr hyn rydym yn ei gynnig ar gyfer y safle, a bydd hefyd yn rhoi cyfle i bobl roi mewnbwn ac adborth i helpu i lunio'r dyluniadau terfynol."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Hydref 2024