Gwaith yn dechrau ar gyfleuster chwaraeon olwynog newydd ym Mharc Fictoria
Bydd gwaith cynnar yn dechrau cyn bo hir i adeiladu cyfleuster newydd ar ffurf sgwâr stryd ar gyfer sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog eraill ym Mharc Fictoria Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe wedi penodi cwmni o'r enw Wheelscape i wneud y gwaith, y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Bydd gweithwyr yn paratoi'r safle yr wythnos hon, felly bydd y parc sglefrio presennol yno'n cael ei gau cyn bo hir. Os oes modd, bydd y ramp bach presennol ym Mharc Victoria'n cael ei gadw a'i adleoli.
Bydd gwaith paratoi'r seiliau'n digwydd ar y safle'n gyntaf cyn i'r prif waith adeiladu ddechrau fis nesaf.
Ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud dros gyfnod y Nadolig.
Bydd y cyfleuster newydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £3m y cyngor mewn llawer o gyfleusterau chwaraeon olwynog ar draws y ddinas er budd sglefrfyrddwyr, beicwyr BMX a selogion chwaraeon olwynog eraill.
Mae arbenigwyr o gwmni o'r enw Curve Studio wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r cyngor ar y cynlluniau, sy'n golygu na fydd pobl yn y rhan fwyaf o rannau o Abertawe'n gorfod teithio mwy na dwy filltir i gyrraedd cyfleuster chwaraeon olwynog newydd neu well.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae cyfleuster newydd Parc Fictoria ar ffurf sgwâr stryd yn gam mawr arall yn ein hymrwymiad i ddarparu mannau chwaraeon olwynog o ansawdd uchel ar draws Abertawe.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn ymwneud â rhoi mwy o gyfleoedd i breswylwyr o bob oed fod yn heini, datblygu eu sgiliau a mwynhau cyfleusterau diogel, modern yn agos at gartref.
"Gyda gwaith bellach yn dechrau ym Mharc Victoria a gwelliannau naill ai wedi'u cwblhau, wedi cychwyn neu wedi'u cynllunio mewn cymunedau eraill ar draws y ddinas, rydym yn creu rhwydwaith o safleoedd sglefrio, beicio BMX a chwaraeon olwynog, y bydd y rhan fwyaf o breswylwyr yn gallu eu cyrraedd yn hawdd
"Mae'r prosiectau hyn yn enghraifft wych o sut rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol a dylunwyr arbenigol i ddarparu cyfleusterau sy'n adlewyrchu'r hyn y mae defnyddwyr wedi gofyn amdano, gan helpu i wasanaethu ein cymunedau am flynyddoedd lawer i ddod."
Bydd contractau gwaith yn cael eu dyfarnu'n fuan i uwchraddio'r parc sglefrio ym Mynydd Newydd ym Mhen-lan ac yng Nghanolfan y Ffenics yn Townhill.
Mae'r prosiectau a gwblhawyd yn ddiweddar yn cynnwys gwelliannau sylweddol i gyfleusterau chwaraeon olwynog yng Nghoed Bach ym Mhontarddulais a Melin Mynach yng Ngorseinon. Gwnaed y gwaith hwn hefyd gan Wheelscape.
Mae cynlluniau pellach yn cynnwys cyfleuster beicio bach ym Mlaen-y-maes, trac pwmpio newydd yn Llandeilo Ferwallt, adnewyddu'r trac pwmpio presennol yn Nyffryn Clun, ac ychwanegu trac pwmpio iau yng Ngorseinon.
Bydd manylion safleoedd ychwanegol yn Abertawe a fydd yn elwa'n cael eu cyhoeddi cyn bo hir.
Cefnogir y buddsoddiad gan gyllid gan aelodau ward, y gronfa buddsoddi cymunedol, cynghorau cymuned a thref a Llywodraeth Cymru drwy grant teithio llesol.
