Toglo gwelededd dewislen symudol

Diwrnod Fictoraidd wedi'i gadarnhau ar gyfer Treforys

Caiff Treforys ei gludo yn ôl i'r oes Fictoraidd mewn digwyddiad ar thema'r Nadolig a gynhelir tua diwedd mis Tachwedd.

Victorian Day 2022

Victorian Day 2022

Bydd hen organ dro Fictoraidd, groto Siôn Corn, band pres a gweithdai syrcas ymysg yr hwyl yn Niwrnod Fictoraidd 2023, a gaiff ei gynnal yn y dref o 10am i 2pm ddydd Sadwrn 25 Tachwedd.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys carolau Nadolig, llwybr coed Nadolig ac ystudfachwyr mewn gwisgoedd Fictoraidd.

Mae'r digwyddiad a drefnir gan Gyngor Abertawe yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Yn ogystal ag adloniant stryd, bydd lleoliadau yn y dref lle cynhelir gweithgareddau'n cynnwys Capel y Tabernacl Treforys, Eglwys Dewi Sant, Llyfrgell Treforys, Canolfan Y Galon Sanctaidd a'r man gwaith a rennir yn 65 Woodfield Street.

Ni fydd unrhyw ffyrdd ar gau yn ystod y digwyddiad.

Fe'i cynhelir y diwrnod ar ôl gorymdaith cynnau goleuadau'r Nadolig Treforys.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Mae'r digwyddiad hwn sy'n addas i deuluoedd - sydd bellach yn cael ei gynnal am y drydedd flwyddyn - yn helpu i greu awyrgylch Nadoligaidd hyfryd yn Nhreforys, gan ddenu rhagor o ymwelwyr a gwariant ar gyfer siopau bwytai, caffis, tafarndai  busnesau eraill yn y dref.

"Mae thema Fictoraidd y digwyddiad yn arbennig o briodol i Dreforys hefyd, o gofio bod y dref wedi tyfu yn ystod Oes Fictoria a phresenoldeb cymaint o bensaernïaeth Fictoraidd yno, gan gynnwys Capel y Tabernacl.

"Bydd rhaglen fanwl am Ddiwrnod Fictoraidd 2023 ar gael yn agosach at ddiwrnod y digwyddiad wrth i baratoadau fynd rhagddynt."

Mae gweithgareddau eraill sydd eisoes wedi'u cadarnhau yn cynnwys drych hun-lun lle bydd pobl yn cael y cyfle i dynnu hunluniau, wedi'u gwisgo mewn gwisgoedd Fictoraidd.

Bydd gwaith aildrefnu hefyd yn dechrau cyn bo hir i addasu capel y Tabernacl - sy'n dyddio nôl i 1872 - yn hwb cadernid cymunedol bywiog.

Mae Sefydliad Ymgorfforedig Elusennol 'Tabernacle, Morriston Congregation' wedi gwneud cais llwyddiannus i Gyngor Abertawe am £450,000 drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer y prosiect.

Hyd yn hyn, sicrhawyd cyllid ar gyfer y prosiect o Raglen Cyfleusterau Cymunedol a Rhaglen  Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cronfa Perchnogaeth Gymunedol y DU, Cronfa Ymddiriedolaeth Deddf Eglwysi Cymru a'r Rhaglen Pobl a Lleoedd drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Hydref 2023