Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnes realiti rhithwir yn derbyn hwb ariannol

Mae busnes uwch-dechnoleg yn Abertawe sy'n arbenigo mewn technoleg ymgolli a realiti rhithwir wedi derbyn hwb ariannol i fynd ag ef i'r lefel nesaf.

Imsersifi

Imsersifi

Mae Cyngor Abertawe wedi rhoi grant twf busnesau i Imersifi yn Uplands, sydd wedi helpu i dalu am gostau cyfarpar a meddalwedd newydd.

​Sefydlwyd Imersifi gan raddedigion Prifysgol Abertawe, Jack Bengeyfield a Joe Charman, y mae gan y ddau ohonynt raddau meistr mewn realiti rhithwir.

​Mae'r busnesau'n defnyddio pensetiau realiti rhithwir a meddalwedd i'w ddefnyddio i hyfforddi staff, efelychiadau, adloniant ac addysg.

​Mae'r gwaith a wnaed gan Imersifi yn cynnwys datblygu rhaglen hyfforddi realiti rhithwir ar gyfer meddygon iau cardiofasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

​Mae'r cwmni hefyd wedi datblygu efelychiadau realiti rhithwir ar gyfer rheoli traceostomi mewn argyfwng a dysgu am froncosgopïau mewn cydweithrediad â Rescape Health. Bwriad hyn yw helpu i wella canlyniadau cleifion mewn ysbytai trwy alluogi meddygon i ymarfer triniaethau mewn amgylchedd diogel a rheoledig.

​Cyfrannodd grant twf busnesau Cyngor Abertawe, a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, tuag at gostau dau benset realiti rhithwir newydd. Helpodd hefyd i dalu am gostau gliniaduron newydd a chof cyfrifiadur i gefnogi'r graffeg angenrheidiol ar gyfer y feddalwedd drwy'r pensetiau.

​Mae'r offer newydd yn golygu y gall y cwmni wella'i gynnig presennol ar gyfer hyfforddiant realiti rhithwir ar gyfer gweithloedd ym meysydd sy'n cynnwys diogelwch tân.

Meddai Jack Bengeyfield, "Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth oddi wrth Gyngor Abertawe gan fod y cyllid yn ein helpu i barhau i ddatblygu'n technoleg realiti rhithwir arloesol, sy'n ffordd hyblyg a chost-effeithiol i gyflogwyr wella sgiliau a gwybodaeth.

​"O ganlyniad i'r offer y mae'r grant wedi helpu i'w brynu, gallwn sicrhau ein bod yn darparu'r profiad realiti rhithwir mwyaf datblygiedig ac ymdrochol."

​Meddai Joe Charman, "Bydd yr offer newydd yn helpu i gadw Imersifi ar flaen y gad ym marchnad hyfforddiant realiti rhithwir a bydd yn datblygu ein cynnyrch hyfforddiant diogelwch tân realiti rhithwir ymhellach, a fydd hefyd yn cynnwys opsiynau Cymraeg.

​"Bydd hefyd yn cefnogi ein gwaith ymchwil a datblygu parhaus, sy'n bwysig er mwyn ein gwneud yn wahanol i'n cystadleuwyr, i hybu twf ein busnes ac i gyflogi staff o bosib."

​Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae gan Abertawe gymuned fusnes wych, sy'n cynnwys busnesau arloesol sy'n fwy newydd, fel Imersifi, a chwmnïau mawr.

​"Maent yn sicr yn haeddu ein cymorth, a dyma'r rheswm pam mai cefnogi busnesau yw un o brif themâu'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Abertawe.

​"Byddwn yn annog busnesau ar draws y ddinas i fynd i barth cefnogi busnesau gwefan y cyngor i ddarganfod yr holl gyfleoedd ariannu a'r gefnogaeth arall sydd ar gael."

Yn ogystal â grantiau twf busnesau, mae nifer o grantiau eraill ar gael y gall busnesau Abertawe gyflwyno cais amdanynt. Maent yn cynnwys grantiau cyn dechrau ar gyfer busnesau newydd, grantiau lleihau carbon a grantiau datblygu gwefannau.

​Mae grantiau eraill yn cynnwys grant datblygu cyflenwyr i helpu busnesau i ariannu'r gost o gael mynediad at hyfforddiant ar gyfer yr achrediad sydd ei angen i wneud cais am gontractau'r sector cyhoeddus neu ar raddfa fwy.

​Mae cyllid datblygu eiddo hefyd ar gael i helpu datblygwyr gyda chostau adeiladu neu ehangu adeiladau at ddefnydd diwydiannol yn Abertawe a fyddai'n creu swyddi.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/ariannubusnesau i gael rhagor o wybodaeth.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Gorffenaf 2023