Sioe awyr wych yn denu torfeydd enfawr
Roedd Sioe Awyr Cymru Abertawe'n benwythnos gwych gyda channoedd ar filoedd o bobl yn mwynhau sioe awyr agored am ddim fwyaf y wlad.
Roedd ymwelwyr o bob rhan o'r DU wrth eu boddau gyda'r dau ddiwrnod o hedfan. Gwelodd y digwyddiad a drefnwyd gan y cyngor hefyd dorfeydd enfawr yn mwynhau gweithgareddau rhyngweithiol ar y ddaear.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Dyma un o uchafbwyntiau calendr digwyddiadau blynyddol Abertawe, ac roedd y sioe flynyddol yn llwyddiant ysgubol, gan barhau i gefnogi enw da'r ddinas fel lleoliad o'r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau mawr.
"Mae'n cyfrannu miliynau o bunnoedd at yr economi leol a diolchwn i fusnesau a phreswylwyr lleol am eu hamynedd wrth i ni gau ffyrdd ac i'r holl fasnachwyr am eu cyfraniad."
Talodd deyrnged i'r ymdrech a wnaed gan staff y cyngor, y gwasanaethau brys, noddwyr y sioe a phartneriaid eraill y cyngor a helpodd i sicrhau bod y digwyddiad yn un o safon i'r ddinas.
Bydd Sioe Awyr Cymru'r flwyddyn nesaf, ar 6-7 Gorffennaf, yn cynnal digwyddiad partner newydd - ar y dydd Sadwrn bydd Abertawe'n cynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru 2024.
Bydd yn cynnwys arddangosfeydd milwrol, gorymdeithiau ac adloniant i ddathlu cyfraniad y rheini sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, lluoedd y cadetiaid a gwirfoddolwyr.
Llun: Y Red Arrows.