Adroddiad adolygu gan gymheiriaid CLlLC
Darparodd CLlLC adolygiad cymheiriaid ar gyfer y cyngor yn ystod hydref 2014 cyn asesiad corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru.
Yn ystod adolygiadau cymheiriaid, mae CLlLC yn gweithredu fel 'cyfaill beirniadol' sy'n deall yr heriau o reoli awdurdod lleol ac sy'n gallu gwneud cyfraniad gonest a diduedd i ymagwedd y cyngor at hunanwella.
Mae gofyn am adolygiad cymheiriaid yn arwydd o ymrwymiad i wella, ac yn ôl CLlLC, atgyfnerthwyd yr ymagwedd hon gan barodrwydd Abertawe i ddysgu a defnyddio syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio.
Diben yr adolygiad
Roedd gan y cyngor nifer o resymau dros gomisiynu'r adolygiad, sef:
- Dysgu gan eraill a gwella'r hyn rydym yn ei wneud
- Datblygu ein hymagwedd at hunanwerthuso
- Helpu i'n paratoi ar gyfer yr asesiad corfforaethol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod mis Tachwedd 2014
- Cefnogi amcan cyffredinol hunanreoleiddio a gwella yng Nghymru dan arweiniad y sector.