Rhowch gynnig ar nofio hyd Olympaidd yn y pwll cenedlaethol
Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn annog pobl i roi cynnig ar nofio hyd Olympaidd fel trît ar gyfer y flwyddyn newydd.
Mae pwll y ddinas yn gartref i athletwyr elît, ond mae hefyd yn lle i bobl sydd am wella'u ffitrwydd neu fwynhau amser allan gyda ffrindiau.
Nawr mae'r pwll yn cynnig pythefnos o nofio am gost isel o £12 i unrhyw un sydd am roi cynnig arno am y tro cyntaf.
Dywedodd Jeremy Cole, rheolwr cyffredinol y pwll, mai nod y cynnig yw annog pobol i roi cynnig ar nofio, gan hybu ffitrwydd mewn ffordd llai heriol ar ôl y Nadolig.
Meddai, "Mae nofio'n ffordd wych o ymarfer y corff cyfan, gan losgi calorïau heb roi pwysau ar eich cymalau fel y gall rhai sesiynau ymarfer corff ei wneud weithiau.
Gellir talu am y cynnig £12 am bythefnos drwy gydol mis Rhagfyr ac mae'r 14 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod cyntaf y caiff ei roi ar waith. Mae hyn yn golygu y gallwch brynu'r cynnig fel anrheg Nadolig i ffrind neu gallwch brynu hwn fel anrheg i chi'ch hun ar gyfer y flwyddyn newydd.
Mae'r cynnig yn rhoi cyfle i nofwyr ymuno â sesiynau nofio mewn lonydd, nofio hamdden neu gyda'r teulu am gyfnod o 14 diwrnod.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynnig pythefnos o nofio am £12 ac i gael rhagor o wybodaeth am aelodaeth, e-bostiwch wnp@abertawe.gov.uk