Cofrestrwch nawr ar gyfer Swimathon 2025
Caiff nofwyr Abertawe eu hannog i ymuno yn y digwyddiad nofio mwyaf yn y byd i godi arian i elusennau ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe.
Cynhelir Swimathon 2025 ym mis Mawrth a dyma fydd y 17eg flwyddyn y mae'r pwll wedi cymryd rhan yn y fenter sy'n codi cannoedd ar filoedd o bunnoedd bob blwyddyn ar gyfer elusennau Marie Curie a Cancer Research UK.
Cynhelir y Swimathon rhwng dydd Gwener 28 Mawrth a dydd Sul 30 Mawrth ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe a 460 o leoliadau eraill ar draws y DU.
Os nad ydych chi ar gael y penwythnos hwnnw, cynhelir Her Rithwir MySwimathon rhwng 21 Mawrth a 6 Ebrill mewn lleoliadau o'ch dewis.
Sefydlwyd y fenter ym 1986 ac maent wedi codi £60m ar gyfer elusennau hyd heddiw. Gallwch fod yn rhan o'r ymdrech y flwyddyn nesaf trwy gofrestru yn Swimathon.org/participants/register, neu i gael rhagor o wybodaeth am Bwll Cenedlaethol Cymru, ewch i www.swanseabaysportspark.wales/cy/