Newyddion am sioe theatr genedlaethol yn denu sylw enfawr i leoliad hanesyddol
Mae'r newyddion bod Theatr y Grand Abertawe yn cynnal cynhyrchiad cyntaf Welsh National Theatre wedi arwain at ddiddordeb eang.


Mae'r newyddion wedi arwain at gyffro ledled Cymru a thu hwnt.
Mae Welsh National Theatre wedi cyhoeddi ei thymor cyntaf ar gyfer cynyrchiadau ledled y wlad. Sefydlwyd y cwmni dri mis ynghynt gan yr actor Michael Sheen.
Mae Michael Sheen, cyfarwyddwr artistig Welsh National Theatre, am greu gwaith o'r radd flaenaf yng Nghymru a mynd ag ef ar daith ledled y byd, gan ddod â doniau o Gymru at ei gilydd i greu theatr uchelgeisiol ac i adrodd straeon Cymreig.
Bydd ei ddau gynhyrchiad cyntaf yn cynnwys Our Town a'r ddrama newydd, Owain & Henry. Bydd Sheen yn ymddangos yn y ddwy ddrama.
Bydd Our Town, drama agoriadol Welsh National Theatre, yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn Theatr y Grand Abertawe rhwng Ionawr 16 a 31 y flwyddyn nesaf. Bydd tocynnau ar werth cyn bo hir.
Mae'r lleoliad eisoes yn denu mwy na 125,000 o ymwelwyr y flwyddyn, a nawr mae'n barod am hyd yn oed mwy o lwyddiant.
Meddai Elliott King, aelod o Gabinet y cyngor, "Mae Theatr y Grand eisoes yn lleoliad gwych sy'n cynnal sioeau gwych. Mae penderfyniad Welsh National Theatre i ddod i Abertawe'n gyntaf yn hwb mawr arall i ddiwylliant y ddinas."
Mae Welsh National Theatre yn gweithio gyda nifer o bobl ddawnus o Abertawe i gyflwyno Old Town, gan gynnwys y sgriptiwr a'r cynhyrchydd teledu Russell T Davies a'r cyfarwyddwr o Abertawe, Francesca Goodridge.
Sylwodd Michael Sheen ar ddawn cyfarwyddo Goodridge pan welodd y cynhyrchiad Sorter, a lwyfannwyd yn y theatr gan grŵp creadigol Uchelgais Grand.
Mae rhaglen bresennol y Grand eisoes yn cynnwys sioeau clodwiw gan gynnwys seren Strictly Come Dancing, Anton Du Beke, Yr Athro Alice Roberts sy'n ymddangos ar y teledu a The Drifters, sydd wedi cael eu derbyn i'r Rock & Roll Hall of Fame.
Mae sioeau comedi gan bobl fel Julian Clary, cerddoriaeth gan The Bon Jovi Experience a llawer mwy, ac adloniant i blant fel sioe Bing's Birthday.
Cyn bo hir bydd drama newydd sbon arall yn cael ei pherfformio ar y llwyfan, sef Hot Chicks , a gyflwynir gan Uchelgais Grand mewn cydweithrediad â Theatr Sherman yng Nghaerdydd.
Llun: Michael Sheen ar ei ffordd i Theatr y Grand Abertawe. Llun: Jon Pountney