Toglo gwelededd dewislen symudol

Welsh National Theatre yn ymgartrefu yn Abertawe

Abertawe yw cartref newydd y cwmni Welsh National Theatre.

Wales National Theatre at Swansea Civic Centre

Bydd pencadlys cyntaf y cwmni, a sefydlwyd gan Michael Sheen yn gynharach eleni, yn agor yng Nghanolfan Ddinesig y ddinas, lle ceir golygfeydd o draeth Bae Abertawe ac o Gymru i bedwar ban byd.

Mae'r newyddion yn cryfhau cysylltiadau Abertawe â'r cwmni: bydd cynhyrchiad cyntaf Welsh National Theatre,Our Town, yn cael ei berfformio yn Theatr y Grand Abertawe rhwng 16 a 31 Ionawr 2026 (mae tocynnau ar werth yma). Mae'r ddrama, a fydd yn mynd ar daith yng Nghymru ar ôl hynny cyn dod i ben yn y Rose Theatre yn  Kingston-upon-Thames, sy'n bartner cyd-gynhyrchu, wedi'i chyfarwyddo gan Francesca Goodridge a anwyd yn Abertawe, gyda Russel T Davies, sy'n frodor o Abertawe, fel cydymaith creadigol.

Meddai Michael Sheen, Cyfarwyddwr Artistig Welsh National Theatre, "Dechreuodd fy nhaith theatraidd ar y llwyfan yn Abertawe fel aelod o Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg, felly mae'n teimlo'n dda i ddod yn ôl i'r dechrau a sefydlu Wales National Theatre yn y ddinas. Mae Abertawe'n lle creadigol, cadarn ac ysbrydoledig ac rwy'n gyffrous am y posibiliadau sydd ar gael yma i artistiaid a hefyd i bobl yng Nghymru.

"Nid swyddfa yn unig yw hon, ond canolfan ddiwylliannol sy'n croesawu pobl greadigol, ac rydym yn gweithio ar gynlluniau i ddod â'r lleoliad hwn yn fyw gydag actorion, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr ac awduron cyn i'r gwaith gael ei gyflwyno i gynulleidfaoedd. Ymhen saith mis yn unig, un o gynulleidfaoedd Abertawe fydd y cyntaf yn y byd i weld cynhyrchiad Welsh National Theatre yn fyw; does dim llawer o amser i fynd."

Ychwanegodd Sharon Gilburd, Prif Weithredwr sefydlu Welsh National Theatre, "Rydym yn gweld Abertawe fel rhan annatod o'n dyfodol. Mae brwdfrydedd diffuant yma, ac mae'r tîm yng Nghyngor Abertawe'n ymrwymedig i weithio gyda ni fel y gallwn ni i gyd helpu i gyflwyno cynnig diwylliannol bywiog a blaengar yn Abertawe - ar gyfer cenhedlaeth heddiw a chenedlaethau i ddod."

Ar ôl perfformio yn Our Town yn Abertawe, bydd Sheen yn chwarae rhan Owain Glyndŵr yn y ddrama epig newydd gan Gary Owen, Owain & Henry, sy'n gyd-gynhyrchiad gan Welsh National Theatre a Chanolfan y Mileniwm Cymru, ym mis Tachwedd 2026.

Mae Arweinydd y Cyngor Rob Stewart wedi croesawu penderfyniad Welsh National Theatre i ymgartrefu yn Abertawe. Meddai, "Mae'n eiliad falch i Abertawe. Mae penderfyniad Welsh National Theatre i ymgartrefu yma'n dangos pa mor bell rydym wedi dod fel dinas greadigol. Mae creu Welsh National Theatre yn nodi cam mawr mewn gwella proffil adrodd straeon o Gymru yn fyd-eang - a thrwy ddewis Abertawe fel cartref y cwmni, mae'n cryfhau rôl y ddinas fel canolbwynt ar gyfer doniau creadigol ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol.

"Mae'n dod â chyfleoedd go iawn i'r rheini sy'n gweithio ar draws y sector perfformio - o actorion i gerddorion, artistiaid ac awduron, i ddylunwyr, cynhyrchwyr a thechnegwyr - i fod yn rhan o rywbeth o'r radd flaenaf, gan greu eiddo deallusol newydd â gwreiddiau yn Abertawe ac yng Nghymru. Mae Cymru'n haeddu cwmni theatr cenedlaethol Saesneg - ac rydym yn falch iawn bod Welsh National Theatre, drwy weledigaeth y cyfarwyddwr artistig Michael Sheen, wedi penderfynu ymgartrefu yn Abertawe. Bydd effaith cynnal theatr o'r radd flaenaf yn Abertawe'n drawsnewidiol. Mae gan y cwmni'r potensial i sbarduno cenhedlaeth newydd o ddoniau lleol ac ysbrydoli hyd yn oed mwy o ymwelwyr i ymweld â'n dinas."  

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn misoedd o gydweithio rhwng Welsh National Theatre a Chyngor Abertawe i ffurfio'r bartneriaeth hon.

Dywedodd Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, fod penderfyniad y theatr yn adlewyrchu blynyddoedd o fuddsoddiad a chydweithio sydd wedi arwain at fentrau allweddol, fel y rhwydwaith Abertawe Greadigol i weithwyr proffesiynol a busnesau yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol, ac Uchelgais Grand, sy'n creu theatr ar gyfer cymunedau lleol gyda chymunedau lleol. Meddai, "O Arena Swansea Building Society i leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad a pherfformio, mae'r bobl greadigol sy'n helpu i sicrhau bod ein diwylliant lleol mor fywiog, blaengar ac amrywiol hefyd yn sicrhau mai Abertawe yw'r lle gorau i gynulleidfaoedd ymweld â hi. Bydd sefydlu Welsh National Theatre yn Abertawe'n helpu i ddenu hyd yn oed mwy o sylw at ein diwylliannau creadigol a'r sector diwylliannol. Gan weithio gydag ysgolion, prifysgolion, arweinwyr ffasiwn digidol a busnesau, mae ein huchelgais i Abertawe adael ei hôl ar lwyfan rhyngwladol yn sicr o fewn cyrraedd."

Pennawd y llun: (o'r chwith i'r dde) Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb; Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe; Michael Sheen; Cyfarwyddwr Artistig, Welsh National Theatre; Sharon Gilburd, Prif Swyddog Gweithredol, Welsh National Theatre

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Mehefin 2025