Abertawe'n dathlu Wythnos Natur Cymru rhwng 2 a 10 Gorffennaf
Mae Abertawe'n dathlu Wythnos Natur Cymru 2022 drwy gynnal troeon gwenoliaid ac ystlumod, yn ogystal â diwrnodau darganfod natur a drefnwyd gan Dîm Cadwraeth Natur Cyngor Abertawe a phartneriaid Partneriaeth Natur Leol eraill.
Dyma ychydig yn unig o'r troeon, sgyrsiau a diwrnodau gweithgareddau natur a fydd yn cael eu cynnal ar draws Cymru, wedi'u trefnu gan amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion sy'n dod ynghyd ar gyfer Wythnos Natur Cymru.
Cynhelir Wythnos Natur Cymru rhwng 2 a 10 Gorffennaf a thema eleni yw 'Cysylltu - Manteision Lles Byd Natur.'
Mae tystiolaeth gref erbyn hyn y gall mynediad i fannau gwyrdd wella'ch lles corfforol a meddyliol, gan gynnwys lleihau lefelau straen a phryder, gostwng curiad y galon a gostwng pwysau gwaed.
Manylion - www.biodiversitywales.org.uk/Wythnos-Natur-Cymru