Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe'n dychwelyd i Barc yr Amgueddfa ar gyfer 2022
Bydd atyniad mwyaf y gaeaf Abertawe'n dychwelyd o 8 Tachwedd 2022 tan 8 Ionawr 2023
Mae'r adeg honno o'r flwyddyn wedi cyrraedd eto, mae'r tymheredd yn gostwng, mae'r nosweithiau'n tywyllu... ac mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn ôl ar gyfer 2022, wrth i Barc yr Amgueddfa gael ei drawsnewid unwaith eto'n wlad hud yr ŵyl.
Yn newydd sbon ar gyfer 2022, gall myfyrwyr a theuluoedd brynu bandiau arddwrn ar gyfer y safle sy'n cynnig arbedion sylweddol ar eu profiad o Wledd y Gaeaf ar y Glannau. Mae'r pecyn i fyfyrwyr yn cynnwys sglefrio iâ, pryd o fwyd i oedolyn a dewis o gwrw, gwin bach, neu wydriad bach o win y gaeaf, gyda chyfanswm o £6 yn cael ei arbed. Mae'r pecyn i deuluoedd yn cynnig arbediad o £18 i ddau oedolyn a dau o blant, neu un oedolyn a thri o blant, ar sglefrio iâ i bedwar, 1 neu 2 bryd i oedolion, 1 neu ddwy ddiod i oedolion, a dau neu dri o brydau plant, gyda diodydd wedi'u cynnwys yn y pris.
Bydd y Pentref Alpaidd poblogaidd yn dychwelyd eleni gyda'i ardal eistedd estynedig i ymwelwyr fwynhau bwyd a diod Nadoligaidd, cymdeithasu a mwynhau'r adloniant byw.
Gall sglefrwyr iâ brofi hud y gaeaf ar iâ wrth iddynt sglefrio ar draws y llyn dan do ac ar hyd y llwybr iâ sy'n dolennu drwy goed Parc yr Amgueddfa.
Meddai Norman Sayers, trefnydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe,
"Rydym yn falch iawn o fod yn ôl yn Abertawe ar gyfer 2022, ac rydym yn arbennig o gyffrous am ein bandiau arddwrn newydd sbon sy'n cynnig arbedion i ymwelwyr yn ystod yr argyfwng costau byw hwn."
"Gyda'n cynllun gwell ac estynedig o 2021 yn dychwelyd eto eleni, rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl gyda digonedd o hwyl yr ŵyl i bawb."
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, "Rydym yn cynllunio Nadolig cyffrous arall ar gyfer pobl Abertawe, gan gynnwys gorymdaith y Nadolig am ddim yn nghanol y ddinas - cyhoeddir y manylion llawn cyn bo hir.
Mae'n wych croesawu Norman Sayers yn ôl i gynnal Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe unwaith eto eleni ac rydym wrth ein boddau ei fod wedi cyflwyno cynigion newydd sy'n ystyriol o'r argyfwng costau byw."
Bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn agor o 8 Tachwedd 2022 ac mae tocynnau ar gyfer y llyn iâ ar werth nawr: https://swanseawaterfrontwinterland.cymru/cy/prynwch-eich-tocynnau-nawr/
Bydd sesiynau sglefrio hygyrch yn ystod awr gyntaf y sesiynau sglefrio bob dydd Mawrth.
Yn y gorffennol, mae lleoedd ar gyfer sesiynau sglefrio wedi gwerthu allan yn gyflym, yn enwedig y slotiau dros y penwythnos. Rydym yn argymell eich bod yn prynu'ch tocynnau sglefrio ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi. Mae mynediad cyffredinol i Barc yr Amgueddfa am ddim i ymwelwyr ei archwilio dros y gaeaf.
Gallwch gael y newyddion diweddaraf am Wledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn:
Gwefan: https://swanseawaterfrontwinterland.cymru/cy/hafan/
Facebook: /Waterfrontwinterland/
Instagram: /swanseaswaterfrontwinterland/