Miloedd yn manteisio ar wefan costau byw
Mae miloedd o bobl yn parhau i ddefnyddio gwefan cymorth costau byw siop dan yr unto Cyngor Abertawe bob wythnos.
Mae'r wefan, a aeth yn fyw am y tro cyntaf ym mis Medi y llynedd, yn cynnwys gwybodaeth am daliadau y gall fod gan bobl leol hawl iddynt, yn ogystal â manylion am ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim neu gost-isel sydd ar ddod yn Abertawe.
Mae hefyd wybodaeth am Leoedd Llesol Abertawe sy'n cynnig croeso cynnes i breswylwyr y gaeaf hwn.
Mae trosolwg o'r budd-daliadau amrywiol sydd ar gael hefyd ar y wefan, yn ogystal â dolenni i nifer o sefydliadau lleol a chenedlaethol a all rhoi cyngor ar feysydd fel dyled a rheolaeth ariannol.
Mae adrannau eraill y wefan yn cynnwys cymorth a chyngor ar dalu biliau ynni a biliau aelwyd eraill.
Meddai'r Cynghorydd Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gymunedau Gwell, "Wrth i ni agosáu at ddiwedd y gaeaf, nid yw hyn yn golygu y bydd yr argyfwng costau byw sy'n effeithio ar gynifer o bobl yn Abertawe a thu hwnt yn dod i ben, ac yn anffodus bydd yn parhau i effeithio arnom o hyd.
"Dyna pam y mae'n galonogol i wybod bod miloedd o bobl yn dal i ddefnyddio ein gwefan costau byw bob wythnos wrth i ni barhau i wneud popeth y gallwn i ddarparu cyngor ac arweiniad i breswylwyr a theuluoedd lleol sy'n wynebu trafferthion ariannol.
"Mae'n wefan siop dan yr unto sy'n rhoi'r holl wybodaeth y mae ei hangen ar bobl mewn un lle - p'un a yw hynny'n fanylion am daliadau y gallant fod â hawl iddynt neu gynlluniau a ariennir gan y llywodraeth i helpu gyda chostau gofal plant.
"Byddwn yn annog unrhyw un sydd heb ddefnyddio'r wefan eto i gael cip arni gan y gallai helpu pobl i arbed arian o bosib, a chael mynediad at y cyngor y gall fod ei angen arnynt.
Mae rhyngrwyd a WiFi am ddim ar gael i'w defnyddio mewn unrhyw lyfrgell gymunedol yn Abertawe i breswylwyr nad oes ganddynt fynediad at gyfrifiadur na ffôn clyfar.
Mae'r wefan cymorth costau byw ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw
Mae adrannau eraill o'r wefan yn cyfeirio pobl i'r gefnogaeth sydd ar gael i'r rheini ag anawsterau iechyd meddwl.