Ceisio barn ar gynlluniau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
Gofynnir i rieni, disgyblion, athrawon a'r gymuned ehangach am eu barn ar gynlluniau i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yn Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe yn bwriadu cynyddu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y ddinas gan gynnwys ar gyfer plant cyn oed ysgol ac astudiaethau ôl-16 ar gyfer cyrsiau academaidd a galwedigaethol.
Caiff y cynlluniau eu cynnwys yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y cyngor y bwriedir iddo helpu Abertawe chwarae ei rhan wrth helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.
Yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf mae nifer y disgyblion yn Abertawe sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi dyblu o 2,581 yn 2001 i 5,228 ar ddechrau eleni.
I weld y cynlluniau a gadael sylw arnynt, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/ymgynghoriadCynllunStrategolCymraegMewnAddysg
Daw'r ymgynghoriad i ben ddydd Llun 22 Tachwedd.