Gwella mynediad i Bier y Gorllewin Abertawe
Bydd mynediad i Bier y Gorllewin Abertawe yn cael ei wella'n sylweddol er mwynhad miloedd o bobl o bob gallu yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
Bydd y llwybr sy'n agos at forglawdd Afon Tawe a Ferrara Quay yn ardal SA1 y ddinas sy'n arwain at y pier yn cael ei adfer dan gynlluniau newydd i wella amgylchedd yr ardal.
Bydd y prosiect yn dilyn cytundeb mewn egwyddor a gafwyd rhwng Cyngor Abertawe a Chymdeithas Porthladdoedd Prydain ar gyfer y tir.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r twyni tywod wedi ymdaenu dros y llwybr sy'n arwain at Bier y Gorllewin ers peth amser gan wneud mynediad yn anodd i lawer o bobl.
"Gan weithio'n agos mewn partneriaeth â Chymdeithas Porthladdoedd Prydain, bydd y prosiect sydd bellach yn yr arfaeth yn adfer y llwybr hwnnw, gan ei wneud yn llawer haws i bobl o bob gallu gyrraedd y pier a mwynhau'r golygfeydd godidog o'r môr sydd i'w cael yno.
"Mae'n rhan o gynllun ehangach i wella golwg a naws yr ardal er budd preswylwyr lleol ac ymwelwyr â'r ddinas, gan helpu i wneud yn fawr o leoliad arfordirol godidog Abertawe."
Yn amodol ar sicrhau cyllid a chymeradwyaeth ar gyfer y cynlluniau i adfer y llwybr, gallai gwaith ddechrau yn y misoedd nesaf.