Toglo gwelededd dewislen symudol

Beiciwr Olympaidd yn cymeradwyo buddsoddiad ar gyfer chwaraeon olwynog

Mae'r beiciwr BMX, James Jones, wedi cefnogi cynlluniau mawr i wella cyfleusterau sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog yn Abertawe.

James Jones BMX

James Jones BMX

Daw ei gefnogaeth o fewn dyddiau i weithdy a gynhaliwyd i archwilio ymhellach a fyddai cysyniad dylunio cychwynnol ar gyfer cyfleuster tebyg i sgwâr stryd yn gweithio yn lleoliad presennol y ramp sglefr fyrddio ym Mharc Victoria.

Bydd Cyngor Abertawe yn buddsoddi mwy na £2m mewn cyfleusterau sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog ar draws y ddinas.

Drwy weithio'n agos â chymunedau lleol a'r cwmni arbenigol Curve Studio, mae cynllun gwella'n cael ei lunio ar gyfer llawer o safleoedd yn Abertawe yn ogystal ag ym Mharc Victoria.

Bydd rhagor o weithdai'n dilyn mewn ardaloedd eraill yn y ddinas lle bydd gwelliannau i gyfleusterau sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog yn cael yr effaith fwyaf bosib.

Magwyd James, a oedd yn rhan o dîm BMX dull rhydd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 2020, yng nghymuned Sandfields Abertawe ac roedd yn defnyddio ramp sglefrfyrddio Parc Victoria yn rheolaidd pan oedd yn ifanc.

Meddai, "Bydd yn wych cael y mae hwn o fuddsoddiad gan y Cyngor yn amgylchedd parc sglefrfyrddio Abertawe. Rwy'n agosáu at ddiwedd fy ngyrfa nawr, ond bydd cael y cyfle i ddefnyddio cyfleusterau gwych yn y dyfodol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ifanc yn Abertawe.

"Rwyf wedi bod yn reidio am oddeutu 15 mlynedd, ond gyda chyfleusterau gwych yn Abertawe, gallai rhywun fod yn fy safle i neu hyd yn oed yn well yn hanner yr amser hwnnw.

"Bydd buddsoddiad y Cyngor yn helpu poblogrwydd chwaraeon olwynog i dyfu ymhellach yn Abertawe, a fydd o fudd i bobl ifanc a hefyd bobl hŷn sy'n mwynhau sglefrfyrddio a reidio beiciau BMX.

"Mae hyn yn rhagorol gan y bydd yn annog rhagor o bobl i dreulio amser yn yr awyr agored, sy'n beth iach."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym am i Abertawe ddod yn un o'r dinasoedd gorau yn y DU ar gyfer sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog eraill.

"Dyma pam rydym yn buddsoddi dros £2m yn y cyfleusterau hyn, yn dilyn ein buddsoddiad sylweddol i wella dwsinau o leoedd chwarae i blant ar draws y ddinas.

"Mae James eisoes wedi rhoi Abertawe ar y llwyfan byd-eang ar gyfer beicio BMX a gobeithiwn y bydd y buddsoddiad yn helpu i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bencampwyr chwaraeon olwynog Olympaidd yn y dyfodol hefyd.

"Mae hyn yn rhan o gynllun cyffredinol i sicrhau nad oes yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl deithio mwy na dwy filltir i gyrraedd cyfleuster sglefrfyrddio neu chwaraeon olwynog sydd wedi'i ailddatblygu yn Abertawe."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Hydref 2024