Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymgyrch i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod

Yr wythnos hon mae Cyngor Abertawe unwaith eto'n hyrwyddo ymgyrch genedlaethol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod

White Ribbon Guildhall

Cynhelir Diwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Gwener (25 Tachwedd) a bydd miloedd o bobl a sefydliadau'n codi'u llais ledled y DU a thu hwnt i gynyddu ymwybyddiaeth o'r mater.

Eleni mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn cael ei gynnal ar yr un wythnos â lansiad Cwpan y Byd Dynion FIFA, gyda'r ffocws ar yr agweddau a'r ymddygiadau y gall dynion a bechgyn eu mabwysiadu er mwyn symud i ffwrdd o ymddygiad treisgar a chamdriniol.

Ar gyfartaledd mae Hwb Cam-drin Domestig Cyngor Abertawe yn derbyn 295 o atgyfeiriadau bob mis ar gyfer plant lle mae cam-drin domestig wedi'i nodi yn y teulu.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r prosiect Eiriolwyr Trais Domestig Annibynnol (IDVA) wedi cefnogi 1,643 o ddioddefwyr cam-drin domestig, gyda 1,504 ohonynt yn fenywod tra bod y Prosiect Equilibrium wedi gweithio gyda mwy na 100 o dramgwyddwyr i newid eu hymddygiad negyddol.

Meddai Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, "Yr wythnos hon gallwn ni i gyd wneud ymrwymiad drwy wneud Addewid y Rhuban Gwyn sef peidio byth â bod yn dreisgar, gwneud esgusodion dros fod yn dreisgar nac aros yn dawel ynghylch trais yn erbyn menywod Does dim esgus am gamdriniaeth."

I gael mynediad at hwn neu ddarganfod mwy am gam-drin domestig ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/TraisynyCartref

 

Close Dewis iaith