Helpwch i lywio dyfodol safle'r Garreg Wen
Mae angen eich barn i helpu i lywio cynlluniau ar gyfer datblygiad cynaliadwy Parc Treftadaeth y Garreg Wen yn Abertawe.


Mae Cyfeillion y Garreg Wen bellach wedi sicrhau bod arolwg ar-lein ar gael wrth i gynigion i wella'r ardal fel adnodd hamdden, treftadaeth ac amgylcheddol symud yn eu blaen.
Mae'n rhan o astudiaeth ddichonoldeb ynghylch dyfodol y safle, a ariennir gan Gyngor Abertawe trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae Parc Treftadaeth Ddiwydiannol y Garreg Wen ar lannau dwyreiniol Afon Tawe ger Pentrechwyth Road.
Y Garreg Wen, sydd ar ochr arall yr afon o Waith Copr yr Hafod-Morfa, yw'r trydydd gwaith copr hynaf yn Abertawe.
Sefydlwyd y gwaith ym 1737 a chaeodd ym 1924.
Meddai llefarydd ar gyfer Cyfeillion y Garreg Wen , "Rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer datblygiad cynaliadwy'r safle yn y dyfodol, ond mae adborth y gymuned yn bwysig oherwydd rydym am wybodaeth pa mor gyfarwydd yw pobl â'r safle, pa mor aml maent yn ymweld ag ef ac am ba reswm maent yn ymweld ag ef.
"Bydd yr arolwg - sy'n cymryd llai na phum munud i'w gwblhau - yn ein helpu i benderfynu ar yr opsiynau gorau ar gyfer y safle yn y dyfodol wrth i ni barhau i'w ddathlu am resymau treftadaeth a hamdden.
"Mae'r prosiect yn ei gamau cynnar iawn, a cheisir cyllid pellach i gyflawni unrhyw gynlluniau gwella posib yn y blynyddoedd i ddod."
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Mae gan Abertawe dreftadaeth ddiwydiannol falch, felly mae'n bwysig cadw ein gorffennol er lles pobl nawr ac am genedlaethau i ddod.
"Mae'r astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer safle'r Garreg Wen yn ategu'r holl waith cadwraeth ac adfer a wneir yn safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa gerllaw.
"Mae adeilad Theatr y Palace a Neuadd Albert yng nghanol y ddinas hefyd wedi ailagor yn ddiweddar."
Ewch yma i gwblhau arolwg y Garreg Wen erbyn 31 Mawrth.