Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau gwaith yn yr arfaeth ar gyfer graddedigion a'r di-waith

Bydd dau gynllun newydd gwerth cyfanswm o £1.1m yn darparu hyfforddiant a lleoliadau gwaith yng Nghyngor Abertawe i raddedigion, y rheini sy'n ddi-waith a phobl sy'n economaidd anweithgar.

Guildhall

Guildhall

Mae'r cynlluniau ymhlith dwsinau sy'n cael eu hariannu gan Gronfa Adferiad Economaidd y cyngor, sy'n ceisio helpu preswylwyr, busnesau a chymunedau'r ddinas i adfer o effaith economaidd y pandemig.

Bydd y prosiect hyfforddi graddedigion gwerth £500,000, a fydd yn rhedeg am y ddwy flynedd nesaf, yn ariannu recriwtio i amrywiaeth o gynlluniau hyfforddi, gan arwain at gymwysterau proffesiynol a chyflogaeth amser llawn bosib mewn meysydd fel cynllunio strategol, adfywio a threftadaeth, strategaeth gwastraff, iechyd y cyhoedd, priffyrdd a thrafnidiaeth, diwylliant a thwristiaeth, a rheoli asedau.

Mae cynllun gwerth £600,000 a fydd yn rhedeg tan 2024 hefyd yn yr arfaeth i greu rhaglen dreigl o leoliadau cyflogaeth chwe mis ar gyfer pobl ddi-waith ac sy'n economaidd anweithgar o bob oed. Mae hanner cant o leoliadau wedi'u cynllunio, gan alluogi'r rheini sy'n cymryd rhan i ennill incwm ac elwa o sgiliau newydd a CVs gwell. Byddai'r cyngor wedyn hefyd yn darparu cymorth wrth chwilio am waith ar ddiwedd pob lleoliad.

Meddai'r Cyngh. Alyson Pugh, Cyd-aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Bydd y cyfuniad o'r cynlluniau hyn yn rhoi cyfle i raddedigion ddilyn cymwysterau proffesiynol yn y cyngor yn ogystal â galluogi lleoliadau cyflogaeth a chymorth sy'n seiliedig ar waith i'r rheini sy'n ddi-waith a'r economaidd anweithgar, sydd ymhlith y rhai fwyaf anghenus mewn cymunedau ledled Abertawe.

"Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae mwy o angen am y math hwn o gefnogaeth nag erioed."

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn gobeithio cyhoeddi manylion yn fuan ar sut y gall pobl elwa o'r cynlluniau hyn fel rhan o becyn cymorth gwerth miliynau o bunnoedd sydd â'r nod o barhau i helpu Abertawe i wella o effaith y pandemig yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

"Gyda dwsinau o brosiectau eisoes wedi'u cymeradwyo a miliynau o bunnoedd wedi'u clustnodi, mae ein Cronfa Adferiad Economaidd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i Abertawe - ac mae llawer mwy i ddod."

Fel rhan o Gronfa Adferiad Economaidd gwerth £25m y cyngor, mae mwy na £15m bellach wedi'i neilltuo i dros 60 o brosiectau ledled Abertawe.

Mae prosiectau eraill a ariennir gan y gronfa yn cynnwys mentrau teithio am ddim ar fysus, darparu defnydd o fannau cyhoeddus yn yr awyr agored am ddim i fusnesau ehangu, hwb ymwybyddiaeth ynni newydd yng nghanol y ddinas, a chymorth marchnata am ddim i gannoedd o fusnesau twristiaeth.

Close Dewis iaith