Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion yn trafod hawliau ar Ddiwrnod Plant y Byd

Mae disgyblion cynradd ac uwchradd yn Abertawe wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiad arbennig heddiw i ddathlu Diwrnod Plant y Byd.

World Children's Day 2022

World Children's Day 2022

Gwnaethant ymgynnull yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'r ddinas i ymuno mewn cyfres o weithdai ac i glywed am gynnydd ar flaenoriaethau a bennwyd ganddynt fel rhan o Gynllun Hawliau Plant Abertawe a'r maniffesto Llais y Disgybl Ysgolion Uwchradd.

Yn 2014, ymrwymodd Cyngor Abertawe i sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cael ei ystyried pan fo penderfyniadau sy'n effeithio arnynt yn cael eu gwneud.

Mae hyn yn golygu bod plant a phobl ifanc yn cael gwybod am yr holl faterion yn Abertawe sy'n effeithio ar eu bywydau, a cheisir eu barn ar holl benderfyniadau'r cyngor sy'n effeithio arnynt.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet y cyngor dros Addysg a Dysgu, "Roedd heddiw'n gyfle i ddisgyblion siarad â swyddogion y cyngor, ein partneriaid a gwasanaethau eraill am eu blaenoriaethau a sut gallwn wella'r hyn rydym yn ei wneud ymhellach.

"Roedd eu syniadau adeiladol wedi creu argraff arnaf, ac mae llawer o bethau i ni eu hystyried."

Close Dewis iaith