Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorymdaith y Nadolig Abertawe - yr hyn y mae angen i chi ei wybod er mwyn cynllunio ymlaen llaw a joio

Anogir pobl sy'n edrych ymlaen at fynd i Orymdaith y Nadolig Abertawe eleni i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad ar nos Sul 20 Tachwedd.

Swansea Christmas Parade

Christmas Parade 2019

Disgwylir i filoedd o bobl ddod i fwynhau'r digwyddiad am ddim a drefnir gan Gyngor Abertawe a fydd yn cynnwys cymysgedd lliwgar o grwpiau cymunedol lleol, diddanwyr proffesiynol gwych, bandiau'n gorymdeithio, fflotiau hudol, cymeriadau ffilm poblogaidd ac offer chwyddadwy'r Nadolig a fydd yn ymuno â Siôn Corn wrth iddo gynnau goleuadau Nadolig disglair canol y ddinas.

Mae'r cyngor yn annog y rheini sy'n bwriadu mynd i weld yr orymdaith i wirio'r trefniadau ymlaen llaw gan y bydd rhai ffyrdd ar gau er mwyn caniatáu i'r orymdaith ddechrau am 5pm.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, y Cyng. Robert Francis-Davies, "Mae ymweliad Siôn Corn ag Abertawe i gynnau goleuadau'r Nadolig yn nodi dechrau'r cyfnod cyn y Nadolig ac rydym yn bwriadu creu awyrgylch carnifal go iawn sy'n llawn lliw, cerddoriaeth a dawnsio.

"Fodd bynnag, er mwyn sicrhau gorymdaith ddiogel drwy ganol y ddinas, mae'n hanfodol ein bod yn cau rhai ffyrdd ac rydym yn cynghori pobl i gynllunio ymlaen llaw a chyrraedd mewn da bryd fel nad ydynt yn colli amser dechrau'r orymdaith, sef 5pm."

Bydd newidiadau i draffig ffyrdd yn cynnwys dargyfeirio traffig i ffwrdd o ffyrdd fel Quay Parade, Oystermouth Road, Princess Way, y Stryd Fawr, Orchard Street a Ffordd y Brenin. Bydd Victoria Road a Quay Parade ar gau dros dro i'r ddau gyfeiriad o New Cut Road hyd at Princess Way o 4pm tan ar ôl i'r orymdaith fynd heibio. Bydd arwyddion i ddangos dargyfeiriadau.

Bydd lleoedd parcio ar gael mewn nifer o leoliadau yng nghanol y ddinas, gan gynnwys parcio am ddim ym meysydd parcio'r cyngor. Bydd y ddau safle parcio a theithio hefyd ar agor ddydd Sul, a bydd bysus yn gadael bob 15 munud o Fabian Way a Glandŵr o 2pm tan 5.15pm, gan ddechrau eto ar ôl yr orymdaith am 6pm. Bydd y safleoedd parcio a theithio'n cau am 8pm.

Yn ystod y digwyddiad bydd llawer o synau swnllyd, goleuadau'n fflachio ac effeithiau arbennig. Cynghorir y rheini sydd am wylio'r orymdaith o fan tawelach i'w gwylio ar ben St Helen's Road o Ffordd y Brenin, neu ar ben uchaf y Stryd Fawr ac Orchard Street. Bydd man gwylio hygyrch ar gael ar Princess Way ac Orchard Street.

Bydd yr orymdaith yn dechrau ar Princess Way, gan deithio tua Sgwâr y Castell lle bydd Siôn Corn yn cynnau rhai o oleuadau Nadolig canol y ddinas o'i sled. Yna bydd yr orymdaith yn parhau ar hyd y Stryd Fawr i lawr Orchard Street ac ar hyd Ffordd y Brenin lle bydd Siôn Corn yn cynnau gweddill y goleuadau Nadolig yng nghanol y ddinas cyn i'r orymdaith orffen ar ben gorllewinol Ffordd y Brenin.

I gael rhagor o wybodaeth am Orymdaith y Nadolig Abertawe, gan gynnwys gwybodaeth lawn am deithio a pharcio, ewch i www.joiobaeabertawe.com

Close Dewis iaith