Ysgol sy'n rhoi pwyslais cryf ar les a chynnydd disgyblion
Mae Ysgol Gymraeg Pontybrenin yn ysgol gynhwysol sy'n rhoi pwyslais cryf ar les a chynnydd disgyblion, yn ôl arolygwyr.
Dywedon nhw fod gan y pennaeth, Ceri Scourfield weledigaeth glir sy'n sicrhau bod disgyblion yn cael profiadau dysgu diddorol mewn amgylcheddau dysgu diddorol a gofalgar.
Mae hyn yn cyfrannu'n bwrpasol at ymddygiad cadarnhaol a pharodrwydd i ddysgu.
Roedd tîm o arolygwyr o Estyn wedi ymweld â'r ysgol y tymor diwethaf ac maent bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad.
Mae'n dweud: "Mae athrawon a chynorthwywyr yn gweithio'n dda gyda'i gilydd i sicrhau darpariaeth gwricwlaidd eang a chytbwys. Maent yn fodelau iaith medrus ac yn canolbwyntio'n effeithiol ar hybu'r gofal a roddir i ddisgyblion a'u dysgu.
"Maent yn annog disgyblion yn gadarnhaol i siarad Cymraeg a defnyddio'r iaith yn bwrpasol fel rhan greiddiol o'u dysgu a'u chwarae.
"Mae staff yn gweithio'n ddiwyd gyda rhieni ac asiantaethau allanol ac yn nodi anghenion disgyblion yn dda, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol."
Mae'r adroddiad yn ychwanegu bod athrawon yn darparu cyfleoedd pwrpasol i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau ar draws y meysydd dysgu sy'n arwain at gynnydd da mewn sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion.
Mae staff a disgyblion yn meithrin perthnasoedd gwaith agos a ffyddlon â disgyblion sy'n cael eu hannog i weithio gyda'i gilydd a rhannu syniadau a theimladau'n llwyddiannus.
Mae staff hefyd yn sicrhau bod disgyblion yn datblygu sgiliau personol, cymdeithasol a chreadigol buddiol, sy'n creu ymwybyddiaeth dda o'u cynefin, neu eu hardal leol, a gwerthfawrogiad diwylliannol cryf.
Meddai Mr Scourfield, "Rwyf wrth fy modd fod arolygwyr wedi cydnabod Ysgol Gymraeg Pontybrenin fel cymuned ddysgu hapus, gynhwysol a chefnogol a gwaith caled ein staff, ein disgyblion a'u teuluoedd sy'n gyfrifol am hyn. Rwy'n gobeithio eu bod yn falch o'r adroddiad hwn."
Meddai Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, Robert Smith, "Roedd llawer o uchafbwyntiau yn yr adroddiad hwn ac rwy'n llongyfarch pawb yn yr ysgol ar arolygiad mor gadarnhaol."