Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyhoeddiad! Dau denant ar gyfer hwb cymunedol canol y ddinas, Y Storfa

Mae dau wasanaeth mawr eu parch wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn bwriadu defnyddio hwb cymunedol canol dinas Abertawe newydd, Y Storfa, fel cartref yn y dyfodol.

Careers Wales Staff

Careers Wales Staff

Fe'i defnyddir ar gyfer swyddfa Gyrfa Cymru yn Abertawe a phrif gartref Cyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Dyma'r gwasanaethau cyntaf nad oeddent yn rhan o'r cyngor i gael eu henwi fel tenantiaid yr hen siop BHS ar Stryd Rhydychen. Mae gwasanaethau'r cyngor y disgwylir iddynt fod yn rhan o'r hwb, sy'n addas i'r cyhoedd ac sy'n agos at safleoedd bysus, llwybrau beicio a meysydd parcio, yn cynnwys prif lyfrgell gyhoeddus a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

Disgwylir i'r Storfa, y cyhoeddwyd ei henw yr wythnos diwethaf, agor yn ystod ail hanner y flwyddyn nesaf.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd yn wych cael y gwasanaethau ardderchog hyn yn Y Storfa. Byddant yn berffaith ar gyfer y lleoliad cyffrous newydd hwn yng nghanol y ddinas."

Mae Gyrfa Cymruyn darparu arweiniad gyrfaoedd a hyfforddiant i helpu pobl i gynllunio'u gyrfa, ac i ddod o hyd i'r cyfleoedd cywir a chyflwyno cais amdanynt.

Bydd gwasanaeth Cymru'n Gweithio Abertawe yn symud o'i leoliad presennol yn Grove Place i'r Storfa pan fydd yr hwb yn agor y flwyddyn nesaf.

Meddai Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Nikki Lawrence, "Byddwn yn falch iawn o fod yn rhan o'r Storfa pan fydd yn agor; bydd yn rhoi mynediad i rai cwsmeriaid at wasanaethau cyhoeddus angenrheidiol, a'r cyfan mewn un lle.

"Yn y cyfamser, rydym yn annog pobl i ymweld â'n canolfan gyrfaoedd yn Grove Place am gyngor ac arweiniad ynghylch gyrfaoedd ac am gefnogaeth gyda'u camau nesaf."

Mae Cyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim. Mae'r gwasanaeth ar draws y DU yn ymgyrchu ynghylch materion mawr sy'n effeithio ar fywydau pobl.

Mae'n bwriadu symud i'r Storfa o'i swyddfeydd presennol pan fydd yr hwb yn agor.

Meddai Caroline Newman o Gyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o greadigaeth y datblygiad hwn yng nghanol dinas Abertawe. Bydd symud i'r Storfa'n gwella mynediad at ein gwasanaethau mewn lleoliad modern sydd wedi'i ddylunio i ddiwallu anghenion ein cleientiaid a'n staff."

Bydd yr hwb cymunedol, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus ac adnoddau defnyddiol. Caiff gwasanaethau eraill sy'n bwriadu symud yno eu henwi'n fuan.

Llun Staff yn swyddfa Gyrfa Cymru Abertawe.