Toglo gwelededd dewislen symudol

Enw newydd adeilad yn cyfeirio at y dyfodol - gydag atgofion o'r gorffennol

Mae'r enw wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer prosiect adfywio allweddol yng nghanol dinas Abertawe.

YStorfa Logo

YStorfa Logo

Enw'r hwb cymunedol newydd Abertawe - yn hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen - fydd Y Storfa.

Bwriedir i'r enw gynnig golwg garedig ar orffennol y safle a dangos y ffordd i'w ddyfodol fel man lle gall pobl ddysgu, cael gwybodaeth a chyngor, mynd i ddigwyddiadau a chael mynediad at gasgliadau llyfrgell a'r archifau a gaiff eu storio yno.

Fel cartref i brif lyfrgell canol y ddinas ac i Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, bydd Y Storfa yn ysgogi mwy o bobl i ymweld â busnesau canol y ddinas.

Bydd cyfleusterau'n cynnwys lle arddangos, theatr ddarlithio, caffi, llyfrgell i blant ac ardal gweithgareddau. Bydd cyngor a fydd ar gynnig yn cynnwys gwybodaeth am dai a budd-daliadau.

Mae pobl a gwybodaeth yn allweddol i frand Y Storfa - fel y maent i'r adeilad. Mae'r marc-brand yn dod â gwybodaeth - ar ffurf y logo "i" adnabyddus - a phobl ynghyd. Mae ei liwiau'n adlewyrchu amrywiaeth y ddinas a nod yr adeilad i greu amgylchedd croesawgar i bobl gwrdd ac elwa o ryngweithio cymdeithasol, gweithgareddau, dysgu a chefnogaeth.

Mae'r cyngor yn gweithio ar y prosiect gyda'r contractwr Kier Construction ac eraill. Crëwyd y brandio ar gyfer Y Storfa gan yr asiantaeth Waters Creative sydd â'i ganolfan yn Llansamlet.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'n wych bod cwmni o Abertawe wedi'n helpu i ddatblygu brand unigryw a chwbl gyfoes ar gyfer y prosiect proffil uchel hwn.

Meddai cyfarwyddwr sefydlol Waters Creative, Rachael Wheatley "Mae'r brand yn dangos bod yr adeilad yn lle cymunedol sy'n agored i bawb, ac yn adeilad sy'n atyniadol, yn ddwyieithog ac yn hygyrch."

Mae Y Storfa yn rhan o raglen adfywio £1 biliwn y cyngor. Bydd yn gyfleuster canolog i bobl sy'n dymuno cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus allweddol. Bydd rhai asiantaethau allanol, y disgwylir y bydd ganddynt ganolfannau yno, yn cael eu cyhoeddi'n fuan.

Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar drawsnewid hen siopau BHS a Miss Selfridge Abertawe, enwau a ddiflannodd o'r strydoedd mawr ledled y DU dros y blynyddoedd diweddar.  

Llun Rhan o'r brandio ar gyfer hwb cymunedol gwasanaethau cyhoeddus canol dinas Abertawe.

 

Close Dewis iaith