Ar agor! Y Storfa, hwb gwasanaethau cyhoeddus newydd yng nghanol dinas Abertawe
Mae canol dinas Abertawe wedi croesawu ychwanegiad newydd pwysig wrth i'r Storfa agor ei drysau i'r cyhoedd heddiw.
Mae'r hwb gwasanaethau cymunedol blaenllaw hwn, a gyflwynir i chi gan Gyngor Abertawe, yn hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen.
Y Storfa yw conglfaen rhaglen adfywio gwerth £1bn y cyngor, a bydd yn helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â chanol y ddinas.
Bwriedir i'r hwb drawsnewid sut mae preswylwyr yn cael mynediad at wasanaethau hanfodol yng nghanol y ddinas.
Mae'r Storfa'n dod ag amrywiaeth eang o wasanaethau ynghyd o dan yr unto, gan greu amgylchedd modern a chroesawgar.
Mae'n agos i gannoedd o leoedd parcio ceir - gan gynnwys cilfachau i'r rheini â phroblemau symudedd, ac i lwybrau ac arosfannau cludiant cyhoeddus.
Roedd llawer o'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yno ar gael ar y diwrnod cyntaf; caiff eraill eu hychwanegu wrth i staff ac ymwelwyr ymgyfarwyddo â threfnau arferol newydd.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'r Storfa yn lle gwych yng nghanol y ddinas i bobl Abertawe gael mynediad at y gwasanaethau y maen nhw'n eu defnyddio o ddydd i ddydd.
"Yn ogystal â gwelliannau eraill yn ein rhaglen adfywio gwerth £1bn, bydd yn gwneud canol y ddinas yn lle gwell fyth i ymweld ag ef.
"Gall pobl ddod ynghyd yma i gymryd rhan mewn bywyd cymunedol mewn lleoliad modern a chroesawgar."
Gall ymwelwyr ddod o hyd i Lyfrgell Ganolog y ddinas yn Y Storfa, yn ogystal â gwasanaethau Opsiynau Tai a Chymorth Tai'r cyngor, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a nifer o wasanaethau eraill y cyngor.
Mae gwasanaethau Gyrfa Cymru a Chyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar gael yno, yn ogystal â gwasanaethau eraill fel Llyfrgell Glowyr De Cymru Prifysgol Abertawe.
Meddai Ian Rees, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Construction Western & Wales, "Rydym yn hynod falch o weld Y Storfa yn agor ei drysau i'r cyhoedd, gan ddarparu lle cymunedol hanfodol yng nghanol y ddinas sydd wedi'i gyflwyno i'r safonau uchaf a pharhau â pherthynas gref Kier â Chyngor Abertawe."
Mae arianwyr Y Storfa'n cynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Gwnaed y gwaith adeiladu dan arweiniad Kier.
I gael rhagor o wybodaeth am Y Storfa, ewch i: www.bit.ly/YStorfa2025
