Cipolwg ar Y Storfa: cynnydd yn yr hwb cymunedol
Mae gwaith yn datblygu'n dda ar safle Y Storfa, sef hwb gwasanaethau cymunedol newydd Abertawe.
Mae contractwyr Kier, sy'n gweithio ar ran Cyngor Abertawe, yn dechrau adeiladu waliau mewnol yn yr adeilad trillawr.
Dros y misoedd diwethaf gwnaed cynnydd ar faterion fel dymchwel waliau a chreu ffenestr to newydd.
Disgwylir i'r prosiect yng nghanol y ddinas, yn hen adeilad siop BHS ar Stryd Rhydychen, gael ei gwblhau eleni.
Bydd yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau sy'n hygyrch i'r cyhoedd ac yn annog mwy o ymwelwyr i ymweld â busnesau lleol wrth i'r Cyngor barhau â'i raglen adfywio gwerth £1 biliwn.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud yn Y Storfa. Pan fydd yn agor, bydd yn lleoliad gwych ar gyfer pobl o bob rhan o'r ddinas."
Dywedodd Jason Taylor, Cyfarwyddwr Rhanbarthol i Kier Construction Western & Wales: "Mae'r Storfa yn dod yn ei flaen yn dda ac mae'r ailddatblygiad ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau eleni. Bydd y prosiect yma yng nghanol Abertawe yn cynnig canolbwynt go iawn i drigolion, yn darparu ystod eang o fwynderau a gwasanaethau a fydd yn denu pobl i galon y ddinas. Rydym yn edrych ymlaen at drosglwyddo'r prosiect i Gyngor Abertawe."
Bydd Y Storfa, sy'n agos at feysydd parcio, safleoedd bysus a llwybrau beicio, yn cynnwys gwasanaethau a gynhelir gan y Cyngor fel y ganolfan gyswllt, opsiynau tai, dysgu gydol oes a'r brif lyfrgell gyhoeddus, yn ogystal â Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Disgwylir i denantiaid yr adeilad nad ydynt yn denantiaid y Cyngor gynnwys Gyrfa Cymru, Cyngor ar Bopeth, a Llyfrgell Glowyr De Cymru Amgueddfa Abertawe.
Llun: Gwaith yn datblygu yn Y Storfa.