Newydd ei gyhoeddi! Tenant arall ar gyfer hwb cymunedol y cyngor yng nghanol y ddinas
Bydd y Storfa, hwb cymunedol newydd yng nghanol dinas Abertawe, yn gartref newydd i gyfleuster sy'n helpu i ddathlu treftadaeth ddiwydiannol, gymdeithasol a diwylliannol y rhanbarth.
Llyfrgell Glowyr De Cymru yw'r trydydd tenant nad yw'n gysylltiedig â'r cyngor i gael ei gyhoeddi ar gyfer yr hwb sy'n cael ei adeiladu ar safle hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen.
Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru, sy'n rhan o Brifysgol Abertawe ac sydd wedi dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed y llynedd, yn bwriadu symud o'i lleoliad presennol yn Nhŷ-coch, y tu ôl i hen Bentref Myfyrwyr Hendrefoelan.
Fel rhan o ddatblygiad Y Storfa, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, bydd yn ymuno ag amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus fel Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, prif lyfrgell gyhoeddus y ddinas ac adnoddau defnyddiol eraill.
Mae'r gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig â'r cyngor sy'n bwriadu symud yno'n cynnwys swyddfa Gyrfa Cymru Abertawe a phrif swyddfa Cyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot Aber.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd yn wych cael Llyfrgell Glowyr De Cymru fel rhan o safle Y Storfa.
"Mae'n geidwad uchel ei barch ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol Gymreig a bydd yn ategu'r archifau cyfoes newydd sbon sy'n cael eu creu yno.
"Yn yr un modd â'n cynlluniau allweddol eraill fel Ffordd y Brenin, Wind Street ac Arena Abertawe, rydym am i'r hwb gwasanaethau lleol newydd hwn a fydd yn gartref i'n llyfrgell ganolog newydd yn ogystal â gwasanaethau lleol allweddol eraill, gynnig cynifer o gyfleoedd â phosib i bobl Abertawe."
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Paul Boyle, "Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau cartref newydd i Lyfrgell Glowyr De Cymru yng nghanol ein dinas ar ei newydd wedd, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog hyd yn oed mwy o bobl i fwynhau'r adnodd pwysig hwn.
"Fel ceidwaid balch y casgliadau hyn sy'n cynnig mewnwelediad unigryw i dreftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol ein cenedl, byddwn yn gweithio gyda Chyngor Abertawe i sicrhau eu bod yn cael eu cadw mewn amgylchedd sy'n eu hamddiffyn a'u cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Agorodd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym mis Hydref 1973 ac mae'n gartref i gasgliad ymchwil unigryw a rhyngwladol bwysig sy'n ymwneud â hanes diwydiannol, addysgol, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol de Cymru.
Mae'n cynnwys llyfrgelloedd mwy na 60 o sefydliadau glowyr a neuaddau lles ar draws y meysydd glo, pamffledi, posteri, casgliad hanes llafar a'r casgliadau mwyaf o faneri yng Nghymru.
Disgwylir i safle Y Storfa agor y flwyddyn nesaf a bydd yn brosiect adfywio allweddol ar gyfer canol dinas Abertawe sy'n sefyll rhwng Sgwâr y Castell, a fydd yn cael ei adnewyddu cyn bo hir, a Ffordd y Brenin ar ei newydd wedd sy'n addas i bobl.
Mae'r safle'n agos at feysydd parcio, safleoedd bysus a llwybrau beicio, a bydd yn galluogi i bobl gael mynediad cyfleus at wasanaethau allweddol o bob rhan o'r cyngor a sefydliadau eraill.
Bydd yn rhoi bywyd newydd i adeilad presennol, yn dod â gwasanaethau cymorth allweddol ynghyd mewn un lleoliad hygyrch ac yn rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr â busnesau yng nghanol y ddinas.
Bydd rhai o wasanaethau'r cyngor sy'n symud i safle Y Storfa yn symud o'r Ganolfan Ddinesig sydd ar fin cael ei hailddatblygu fel ardal glan-môr ddinesig newydd mewn partneriaeth rhwng y cyngor a'r datblygwyr byd-enwog, Urban Splash.
Gallai cartrefi newydd a mannau hamdden a lletygarwch gael eu datblygu yno, ynghyd ag ardaloedd gwyrdd, mannau cyhoeddus a rhodfa newydd i'r traeth.
Mae'r newidiadau'n rhan o raglen adfywio gwerth £1bn y cyngor sy'n parhau i fynd rhagddi.