Prydau ysgol am ddim wedi'u hestyn i bob disgybl Blwyddyn 3 yn Abertawe
Mae 2,600 yn rhagor o ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion cynradd yn Abertawe bellach yn gallu mwynhau prydau ysgol am ddim ar ôl i'r cynnig gael ei estyn i bob disgybl Blwyddyn 3 ar ddechrau'r tymor.
Mae'n golygu bod oddeutu 10,000 yn y ddinas bellach yn gymwys gan yr oedd prydau ysgol am ddim eisoes ar gael i holl ddisgyblion y dosbarth Derbyn, Blwyddyn Un a Blwyddyn Dau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pob disgybl ysgol gynradd yn derbyn pryd ysgol am ddim erbyn 2024, ac mae Cyngor Abertawe'n gweithio i gyrraedd y targed hwn.
Yn Abertawe buddsoddwyd mwy na £4 miliwn mewn gwella ceginau ysgol a diweddaru cyfarpar er mwyn gallu cyrraedd y targed.
Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Dysgu, "Mae'r argyfwng costau byw yn golygu bod addewid Prydau Ysgol am Ddim Llywodraeth Cymru yn bwysicach nag erioed ac rwy'n ddiolchgar i weinidogion am y cyllid a ddarperir i'n galluogi i gyflawni hyn."