Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion ysgol yn helpu i ysbrydoli eu cyd-ddisgyblion i fwynhau chwaraeon

Mae dros 100 o ddisgyblion ysgol yn Abertawe wedi cael eu hyfforddi i annog eu cyd-ddisgyblion i gadw'n heini - a gwella'u hiechyd.

Sport Ambassadors

Sport Ambassadors

Cawsant eu mentora gan swyddogion chwaraeon ac iechyd Cyngor Abertawe a bellach mae ganddynt y teitl llysgennad ifanc ar gyfer chwaraeon yn eu hysgolion.

Mae'r cynllun hwn wedi'i gynnal gan y cyngor ers dros ddegawd ac mae'n ysbrydoli pobl ifanc rhwng 9 ac 14 oed.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae llysgenhadon ifanc yn allweddol i sicrhau bod gan ddisgyblion lais mewn chwaraeon. Maent yn gwella ac yn datblygu sgiliau symudedd, lefelau gallu, hyder a mwynhad o weithgareddau chwaraeon ar gyfer pobl ifanc eraill."

Meddai William Evans, llysgennad ifanc ym mlwyddyn chwech yn Ysgol Gynradd Sgeti: "Rwyf wedi mwynhau sefydlu a chyflwyno sesiynau i fy nghyd-ddisgyblion."

Mae William a'i gyd-lysgennad ifanc, Bella Difrancesco, ymhlith y rheini sydd wedi mynd i sesiynau hyfforddi a reolir gan y cyngor i ysbrydoli llysgenhadon ifanc y dyfodol.                                                      

Mae Chwaraeon Cymru ymhlith yr arianwyr ar gyfer cynllun Abertawe. Mae partneriaid yn cynnwys myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Chwaraeon Cymru a'r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.

Llun: Llysgenhadon ifanc ar gyfer chwaraeon, Bella Difrancesco a William Evans.

 

 

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023