Masnachwr ifanc o Abertawe'n disgleirio mewn digwyddiad marchnad
Roedd entrepreneur ifanc o Abertawe yn un o'r enillwyr mewn digwyddiad a gynhaliwyd ym Marchnad Abertawe.


Gwnaeth Bethany Coram, perchennog Coram Cermaics, argraff dda ar feirniaid yn rownd derfynol ranbarthol de Cymru mewn cystadleuaeth i fasnachwyr ifanc gyda'i chrochenwaith o waith llaw a'i sgiliau creadigol.
Enillodd Bethany yn y categori celf a chrefft, ar y cyd ag Alana Jones, o Alana Jayne Jewellery.
Bydd y ddwy ohonynt, ynghyd â phedwar enillydd gwobrau rhanbarthol eraill, nawr yn cystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Masnachwyr Ifanc NMTF y mis nesaf.
Cyngor Abertawe sy'n rheoli Marchnad Abertawe.
Meddai Dirprwy Arweinydd yr y Cyd y cyngor, David Hopkins, "Roedd y masnachwyr ifanc, ac ansawdd eu gwaith, wedi creu argraff dda ar y beirniaid."
Daeth digwyddiad olaf y masnachwyr ifanc rhanbarthol, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, â naw o fasnachwyr ifanc mwyaf addawol de Cymru ynghyd.
Cafodd y digwyddiad ei feirniadu gan Arglwydd Faer Abertawe, Cheryl Philpott, a rheolwyr adfywio'r cyngor, Clare James a Matt Callaghan.
Alana Jones oedd yr enillydd cyffredinol.
Roedd yr enillwyr eraill, ochr yn ochr â Bethany, yn cynnwys Abigail Smith o Abi's Macaronsa Katie Lambert oClassy Canine Creations.
Rhoddwyd canmoliaeth uchel i Leah Morgan o Malfie & Cro, a Charlotte Taylor o Taylor's Tiny Tots.
Roedd y digwyddiad hefyd yn dathlu Wayne Holmes, cadeirydd cangen NMTF Marchnad Abertawe. Derbyniodd gyflwyniad arbennig i gydnabod ei 30 mlynedd o fasnachu yn y farchnad.
Llun: Bethany Coram yn casglu ei gwobr.