Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y Storfa: Rhagor o gynnydd yn yr hwb cymunedol

Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud ar safle eich hwb cymunedol newydd, Y Storfa, yng nghanol y ddinas.

Y Storfa Interior March 2025

Y Storfa Interior March 2025

Pan fydd yn agor, bydd yn gartref i gyfleusterau fel llyfrgell ganolog newydd a fydd yn cynnwys llyfrgell i blant.
Bydd y gwasanaethau eraill a gynhelir gan y cyngor yno'n cynnwys y rheini fel y Ganolfan Gyswllt, Opsiynau Tai, Dysgu Gydol Oes a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Disgwylir i denantiaid yr adeilad nad ydynt yn denantiaid y cyngor gynnwys Gyrfa Cymru, Cyngor ar Bopeth, a Llyfrgell Glowyr De Cymru Amgueddfa Abertawe.
Bydd y rhain a gwasanaethau eraill y gall cyhoedd gael mynediad atynt yn annog mwy o bobl i ymweld â busnesau lleol wrth i'r cyngor barhau a'i raglen adfywio gwerth £1bn. 
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd y Storfa'n lleoliad penigamp i bobl o bob rhan o'r ddinas gael mynediad at wasanaethau hanfodol. 
"Mae'n wych gweld cynnydd yn cael ei wneud wrth i ni ail-bwrpasu'r safle mawr hwn yng nghanol y ddinas ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
"Mae'r ardal hon o ganol y ddinas yn cael ei thrawsnewid gyda chymysgedd da o fuddsoddiad gan y sectorau cyhoeddus a phreifat.
"Mae Gerddi'r Castell yn mynd i fod yn wyrddach ac yn fwy croesawgar, mae cynlluniau ar gyfer cartrefi newydd uwchben McDonald's, a chartrefi a busnesau newydd yn hen adeilad sinema'r Castle."
Yn ystod yr wythnosau diweddar ar safle'r Storfa, mae'r prif gontractwyr Kier Group wedi parhau i weithio ar elfennau fel ystafelloedd cyfarfodydd, gwasanaethau a ffenestri.
Disgwylir i'r prosiect yn hen adeilad siop BHS ar Stryd Rhydychen, gael ei gwblhau eleni. 
Mae arianwyr Y Storfa yn cynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Llun: Gwaith yn datblygu yn Y Storfa.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Mawrth 2025