Bydd rhai o lwybrau cerdded a beicio oddi ar y ffordd mwyaf darluniadwy Abertawe'n cael hwb, diolch i'r Cyngor.
Mae gan Abertawe fwy na 120km o lwybrau cerdded a beicio, y mae llawer ohonynt mewn ardaloedd gwledig, coediog i ffwrdd o ffyrdd prysur, sy'n berffaith am ddiwrnod allan i'r teulu, ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel y'i gilydd.
Nawr mae'r Cyngor yn awr yn bwriadu gwario tua £60,000 ar gyfarpar newydd a fydd yn helpu i gadw rhai o'r llwybrau'n glir o ordyfiant, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf.
Dywedodd Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, fod y bwriad i brynu tractor bach a chyfarpar tynnu deiliach mewn ymateb i geisiadau gan breswylwyr yn annog y Cyngor i weithredu ar ordyfiant mewn rhai ardaloedd lle mae llwybrau teithio llesol.